Nid yw oedran yn rhwystr i ddysgu, fel dengys Anita Cashmore o Gaerdydd, wrth iddi wella ei Sgiliau Digidol gyda chymorth Addysg Oedolion Cymru. | Addysg Oedolion Cymru

Nid yw oedran yn rhwystr i ddysgu, fel dengys Anita Cashmore o Gaerdydd, wrth iddi wella ei Sgiliau Digidol gyda chymorth Addysg Oedolion Cymru.

28-Chwefror-2024
Rhannu

O dan arweiniad Tiwtor Llythrennedd Digidol Addysg Oedolion Cymru, Robert Meredith, mae’r dysgwr Anita Cashmore o Gaerdydd, yn adrodd ei stori am wella ei sgiliau digidol gydag Addysg Oedolion Cymru.

Wrth wella ei sgiliau llythrennedd digidol gydag Addysg Oedolion Cymru, dywedodd Anita:

“Rwyf wrth fy modd gyda’r holl sgiliau cyfrifiadurol newydd rwyf yn eu dysgu. Mae ochr gymdeithasol mynychu’r cwrs yn wych, rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd ac rydym yn cyfarfod hefyd y tu allan i’r dosbarth pan ellir trefnu amser cyfleus i bawb. Rwyf bron yn 62 oed ac nid oes angen i mi gymryd y cymhwyster er mwyn camu ymlaen. Fodd bynnag, rwy’n difaru na wnes i hyn flynyddoedd yn ôl.”

Mae Anita wedi cael llawer o gefnogaeth gan ffrindiau ac anwyliaid drwy ei hastudiaethau, ac mae ei sgiliau digidol newydd wedi creu cyfleoedd diddiwedd:

“Mae’r hyn gallaf ei gyflawni wedi creu argraff ar fy ffrindiau a fy nheulu ac maent bob amser yn frwdfrydig am yr hyn rwyf wedi’i wneud. Mae fy nheulu i gyd yn gefnogol iawn, ac mae wedi agor posibiliadau diddiwedd i brynu anrhegion. Mae cyfrifiaduron wedi ehangu fy rhagolwg ar gymaint o bethau ac ni feddyliais erioed y byddwn yn mwynhau taenlenni Excel, ond rwyf wedi fy swyno gan bob agwedd. Dydych byth yn rhy hen i ddysgu!”

Wrth ddysgu o dan arweiniad Tiwtor Llythrennedd Digidol Addysg Oedolion Cymru, Robert Meredith, ychwanegodd Anita:

“Mae Robert Meredith yn ddarlithydd caredig a chymwynasgar iawn ac rwy’n ddiolchgar ei fod wedi credu ynof ac wedi fy annog i roi cynnig arni.”

Yn olaf, i’r rhai sy’n dysgu neu’n dymuno cychwyn ar eu taith ddysgu gydag Addysg Oedolion Cymru:

“Byddwch yn hyderus yn eich gallu a mwynhewch, hyd yn oed eich camgymeriadau. Rydym i gyd yn cael diwrnodau nad ydynt cystal! Rwyf wrth fy modd yn gwneud yr holl gyrsiau a gynigwyd i mi gan Addysg Oedolion Cymru, a byddaf yn parhau i astudio.”

Fel mae Stori Dysgwr Anita yn ei ddangos, dydych byth yn rhy hen i ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Os yw stori Anita wedi eich ysbrydoli i ddechrau ar eich taith ddysgu, beth am ddarganfod mwy am yr ystod eang o gyrsiau sydd gan Addysg Oedolion Cymru i’w gynnig yma.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth