Nid yw llythrennedd yn stopio wrth giât yr ysgol
8-Medi-2026
Mae Diwrnod Rhyngwladol Llythrennedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed eleni. Mae thema UNESCO, “Llythrennedd er budd pobl, y blaned a ffyniant”, yn ein hatgoffa fod llythrennedd yn rhywbeth amgenach na deilliant addysgol. Mae’n cynorthwyo i sicrhau cynhwysiant, cymunedau cynaliadwy, bywoliaethau a datblygu’r economi.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n paratoi Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol. Mae’r uchelgais i gryfhau llythrennedd a rhifedd yn rhywbeth y dylid ei groesawu. Fodd bynnag, mae’r cynllun yn mabwysiadu dull 0-16, a rhaid inni ochel rhag trin llythrennedd fel rhywbeth sy’n dechrau ac yn gorffen wrth giât yr ysgol.
Bydd oedolion sy’n cael trafferth â llythrennedd yn profi’r canlyniadau drwy gydol eu hoes. Mae llythrennedd yn effeithio ar y gallu i ganfod gwaith a chamu ymlaen ynddo, deall gwybodaeth am iechyd, rheoli arian, defnyddio gwasanaethau digidol, cynorthwyo plant i ddysgu a chyfranogi’n hyderus yn y gymdeithas. Wrth i wasanaethau symud ar-lein, mae llythrennedd a llythrennedd digidol yn fwyfwy cysylltiedig.
Ceir dimensiwn rhyng-genedlaethol pwysig hefyd. Mae cynorthwyo plant yn hanfodol, ond efallai bod rhai rhieni a gofalwyr wedi colli cyfleoedd yn yr ysgol neu efallai fod angen cymorth arnynt i ailadeiladu sgiliau a hyder. Os caiff llythrennedd oedolion ei anwybyddu, gall anfanteision barhau o’r naill genhedlaeth i’r llall. Gall Dysgu Oedolion yn y Gymuned a dysgu fel teulu helpu i dorri’r patrwm hwnnw drwy gynorthwyo oedolion a phlant gyda’i gilydd, mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’w bywydau.
Mae’n rhaid bod yn ddewr i ddychwelyd y ddysgu ar ôl dod yn oedolyn. I rai, mae profiadau addysgol blaenorol wedi peri iddynt gredu nad yw dysgu yn rhywbeth addas iddynt hwy. Mae Estyn wedi nodi mai hyder yw’r rhwystr pennaf sy’n atal oedolion rhag dychwelyd i ddysgu. Mae hynny’n golygu rôl tiwtoriaid, sefydliadau cymunedol a phartneriaethau lleol yn neilltuol o bwysig. Maent yn creu llwybrau dibynadwy a hygyrch i alluogi pobl i ddychwelyd i ddysgu, ac yn aml iawn, byddant yn llwyddo i gyrraedd at bobl na fyddent yn mynd i leoliad addysg ffurfiol.
Bydd Archwiliad Sgiliau Cymru, a gaiff ei gynnal yn fuan gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle i sicrhau y caiff llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol u cydnabod fel blaenoriaethau cenedlaethol ledled y wlad. Mae’r rhain yn amgenach na sgiliau i sicrhau twf yr economi. Y sgiliau hyn yw’r sylfeini sy’n galluogi pobl i arfer dewisiadau, deall y byd o’u cwmpas a chyfranogi’n weithredol ym mywyd eu teulu a’u cymuned.
Dylem groesawu’r ffocws cenedlaethol newydd ar lythrennedd plant gan edrych y tu hwnt i hynny. Mae angen i Gymru wybod beth yn union yw anghenion oedolion a chydnabod bod Dysgu Oedolion yn y Gymuned a dysgu fel teulu yn elfennau hanfodol yn y darlun ehangach. Mae hynny’n golygu parhau i flaenoriaethu llythrennedd oedolion, cynnig cymorth i’r gweithlu proffesiynol ac osgoi dibyniaeth ar gynlluniau dros dro.
Dylai Diwrnod Rhyngwladol Llythrennedd ddathlu pob oedolyn sydd wedi cymryd y cam cyntaf anodd i ddychwelyd i ddysgu, a’r bobl a’r sefydliadau sy’n eu cynorthwyo. Dylai hefyd ein hatgoffa bod llythrennedd yn gyfrifoldeb gydol oes. Bydd cyflawni Cymru fwy llythrennog yn dibynnu ar sicrhau na fydd cyfleoedd pobl i ddysgu yn dod i ben pan fyddant yn troi’n 16 oed.
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth