Newyddion o’n Cwrs Cyllidebu, fel Rhan o’r Prosiect Multiply!
19-Tachwedd-2024Fel rhan o ymdrechion parhaus Addysg Oedolion Cymru i gefnogi datblygiad rhifedd, cynhaliwyd cwrs cyllidebu yn Links, Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, ar 14eg Tachwedd 2024. Roedd y cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr Mynediad 2 ac yn canolbwyntio ar sgiliau cyllidebu hanfodol fel rhan o’r rhaglen Lluosi Multiply. Darparodd y cwrs, a gyflwynwyd gan y tiwtor Andrea Planas, sgiliau ymarferol bywyd go iawn i ddysgwyr reoli eu harian ac ymgysylltu gyda rhifedd mewn cyd-destunau bob dydd.
Canlyniadau Dysgu
Cynlluniwyd cynnwys y cwrs i fodloni Safonau Rhifedd penodol yn unol â Fframwaith Dysgu Oedolion Llywodraeth Cymru. Roedd y cwrs yn ymdrin gyda’r sgiliau rhifedd allweddol canlynol – adio a thynnu symiau o arian gan ddefnyddio nodiant degol, yn ogystal â thalgrynnu symiau i’r bunt agosaf neu 10c i wneud cyfrifiadau bras. Yn ogystal, canolbwyntiodd y cwrs ar ddwyn i gof ffeithiau adio a thynnu sylfaenol hyd at 20, a helpu dysgwyr i ddeall a gweithio gyda degolion mewn cyd-destunau ymarferol, fel arian. Rhoddodd y sgiliau sylfaenol hyn yr offer sydd eu hangen ar gyfranogwyr i reoli eu harian yn hyderus ac yn gywir.
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ESDGC)
Yn ogystal â rhifedd, roedd y cwrs yn integreiddio sawl thema allweddol o ESDGC, gan annog dysgwyr i ystyried materion cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol ehangach mewn perthynas â chyllidebu. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Cyfoeth a Thlodi: Deall anghenion sylfaenol, ansawdd bywyd, a gwir werth nwyddau yng nghyd-destun cyllid personol.
- Iechyd: Cydnabod pwysigrwydd cynllunio ariannol wrth ofalu amdanoch eich hun ac eraill, a deall sut mae cyllidebu yn cyfrannu at les cyffredinol.
- Defnydd a Gwastraff: Hyrwyddo’r syniad o ddefnyddio adnoddau’n ofalus, lleihau gwastraff, a gwneud dewisiadau gwybodus wrth wario.
Roedd y themâu hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyflawn o gyllidebu sy’n mynd y tu hwnt i reoli rhifau yn unig, gan eu hannog i feddwl am eu penderfyniadau ariannol mewn cyd-destun ehangach, sy’n gyfrifol yn gymdeithasol.
Ystyriaeth o Ddarpariaeth Ddwyieithog a’r Iaith Gymraeg
Sicrha Addysg Oedolion Cymru bod ei gyrsiau yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob dysgwr. Ar gyfer y cwrs cyllidebu yma, darparwyd yr holl adnoddau yn ddwyieithog, gyda deunyddiau cwrs ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Prif iaith cyflwyno’r cwrs oedd Saesneg ond ymgorfforodd y tiwtor, Andrea, rai elfennau o’r Gymraeg i gefnogi dysgwyr ac adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i’r iaith Gymraeg.
Ymatebion a Chanlyniadau Dysgwyr
Derbyniodd y cwrs cyllidebu adborth cadarnhaol gan gyfranogwyr, a amlygodd berthnasedd y cynnwys a chymhwysiad ymarferol y sgiliau a ddysgwyd. Dywedodd dysgwyr eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn eu gallu i reoli eu harian personol, gyda gwell dealltwriaeth o dechnegau cyllidebu a sut i wneud penderfyniadau ariannol gwybodus.
Llais y Dysgwr:
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint oedd fy nhaliadau hanfodol nes eu hysgrifennu i lawr heddiw, ac rwy’n eithaf hapus fy mod yn ymdopi’n dda wrth i drin fy arian pan welaf faint sy’n mynd allan”
“Gwnaeth y cwrs wneud i mi feddwl am ffyrdd o dorri’n ôl yr hyn rwy’n ei wario, er mwyn cynilo ar gyfer ychydig o wyliau.”
“Mae’n dda atgoffa’ch hun o’r hyn rydych yn ei wario a sut i gyllidebu er mwyn cynilo, gan ei bod yn rhy hawdd tapio’ch cerdyn a gwario gormod”
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y prosiect Multiply: www.addysgoedolion.cymru/amdanom/amdanom-ni/y-prosiect-multiply/


Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth