Neges Diwedd Blwyddyn | Addysg Oedolion Cymru

Neges Diwedd Blwyddyn

18-Rhagfyr-2024
Rhannu

Wrth i ni agosáu at ddiwedd 2024, rydym am gymryd eiliad i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn brysur a chynhyrchiol i’r sefydliad. Ledled Cymru, rydym wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a dyma rai uchafbwyntiau: Yng Ngogledd Cymru, mae darpariaeth hyblyg o sgiliau hanfodol wedi helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau, gan feithrin eu hyder i lwyddo mewn gwaith a bywyd. Yn Rhanbarth y De-orllewin a’r Canolbarth, mae cyrsiau celf a chrefft wedi dod â chymunedau ynghyd, gan gynnig mannau creadigol a sgiliau ymarferol. Cafodd y rhaglenni Multiply yn y De-ddwyrain effaith sylweddol, gan helpu dysgwyr ym Mlaenau Gwent, Caerdydd, a thu hwnt i wella eu sgiliau rhifedd a datgloi cyfleoedd newydd. Wrth i’r rhaglen hon ddod i ben ym mis Mawrth 2025, rydym yn falch o’i llwyddiant a’r gwahaniaeth trawsnewidiol mae wedi’i wneud ym mywydau pobl. Roeddem hefyd yn falch o weld sawl dysgwr a thiwtor yn cael eu cydnabod fel enwebeion ac enillwyr gwobrau Ysbrydoli! eleni – sy’n dyst gwirioneddol i werth addysg oedolion.

Parhaodd ein darpariaeth i dyfu ac esblygu, gyda chyrsiau cyflogadwyedd a sgiliau digidol, ysgrifennu creadigol, astudiaethau treftadaeth, sgiliau hanfodol, a chymwysterau gwaith ieuenctid, i enwi dim ond rhai. Rydym hefyd wedi ehangu rhaglenni wedi’u teilwra fel y prosiect “Balch o fod yn Awtistig”, a gefnogir gan fenter a ariennir gan Taith, sydd wedi rhoi lle i ddysgwyr niwroamrywiol ffynnu a dathlu eu hunaniaeth. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn hynod falch o’r prosiect Bywyd, Cariad a Cholled, menter ddigidol unigryw sy’n cyfuno celf ac adrodd straeon i archwilio themâu profedigaeth ac iachâd. Mae’r rhaglenni hyn yn enghraifft o’n hymrwymiad i gynhwysiant a chreadigrwydd, gan gynnig ffyrdd newydd i ddysgwyr ymgysylltu a ffynnu. Boed hynny trwy fentora, cefnogaeth ychwanegol, neu adnoddau hygyrch, rydym yn gwneud yn siŵr bod dysgwyr yn gallu cael y gorau o’u hamser gyda ni.

Mae dysgwyr wedi cyflawni cymaint eleni – o ennill cymwysterau sydd wedi agor cyfleoedd gyrfaol neu astudio newydd i wneud cyfraniadau gwirioneddol yn eu cymunedau lleol. Mae ein darpariaeth gwaith ieuenctid yn parhau i arwain y ffordd yng Nghymru, gyda llawer o ddysgwyr yn cwblhau cymwysterau Lefel 2 a 3, ac yn defnyddio eu sgiliau i wneud gwahaniaeth. Ni fyddai’r llwyddiannau hyn yn bosibl heb waith caled ac ymrwymiad ein staff, sydd wedi mynd cam ymhellach i ddarparu addysgu a chefnogaeth o ansawdd uchel ym mhob rhanbarth.

Mae eleni yn nodi cyfnod o newid i’r sefydliad hefyd. Mae Stephen Thomas, ein Hysgrifennydd a Chlerc y Cwmni sydd wedi gwasanaethu ers tro, yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn. Chwaraeodd Stephen ran allweddol yn y sefydliad ers blynyddoedd lawer a dymunwn yn dda iddo gyda’i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’n bleser gennym hefyd groesawu Nicola Dagg, sydd wedi cymryd yr awenau fel Ysgrifennydd a Chlerc y Cwmni, a Bernie Davies, ein His-lywydd Etholedig newydd. Daw Bernie â chyfoeth o brofiad a bydd yn gweithio ochr yn ochr gyda Nia Parry wrth i ni edrych tuag at y dyfodol.

I gloi, rydym am ddweud cymaint rydym yn gwerthfawrogi popeth mae ein tîm yn AOC wedi’i wneud eleni. Mae eu gwaith caled, creadigrwydd ac ymroddiad wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr a chymunedau ledled Cymru. Mae ein tiwtoriaid a’n staff wrth galon llwyddiant ein sefydliad, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr ymrwymiad a’r angerdd sydd gennych tuag at eich gwaith. Mwynhewch yr egwyl, cymerwch amser i chi’ch hun, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar lwyddiant eleni gyda’n gilydd yn 2025.

John Graystone, Cadeirydd y Cyngor
Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth