Neges Bwysig
11-Rhagfyr-2020Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth Cymru y bydd ysgolion uwchradd a cholegau Cymru’n troi at addysgu a dysgu ar-lein o ddydd Llun 14 Rhagfyr, mae colegau addysg bellach, gan gynnwys Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, wedi dod ynghyd i gadarnhau cyfnod estynedig darpariaeth o bell.
O ddydd Llun, a trwy gydol yr wythnos sy’n weddill o dymor yr hydref (tan ddydd Gwener 18 Rhagfyr), bydd dysgu ac addysgu yn symud i ddarpariaeth ar-lein ac yn parhau yn y flwyddyn newydd am y cyfnod o ddydd Llun 4 Ionawr hyd at ddydd Gwener 8 Ionawr.
DYn ystod y cyfnod hwn, byddwn ni’n parhau i gynorthwyo ein dysgwyr mwyaf bregus ar sail eu hanghenion unigol. Mae hynny’n golygu y gall addysgu wyneb yn wyneb yn achos rhai grwpiau o ddysgwyr. Caiff hyn ei reoli ar y lefel leol a bydd eich tîm rhanbarthol/cyflawni yn cysylltu â chi maes o law i gadarnhau’r trefniadau.
Er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar addysg dysgwyr, bydd asesiadau ar gyfer cymwysterau penodol a drefnir yn ystod yr amser hwn ac yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol, yn parhau i gael eu cynnal. Lle bo modd, bydd asesiadau’n cael eu haildrefnu. Unwaith yn rhagor, bydd eich tîm rhanbarthol/cyflawni yn darparu rhagor o wybodaeth
Cofiwch y bydd mwyafrif ein staff yn gweithio gartref yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, gallwch chi barhau i gysylltu â ni trwy e-bostio gwybodaeth@addsgoedolion.cymru neu ffonio 03300 580845.
Disgwylir ar hyn o bryd y bydd darpariaeth wyneb yn wyneb yn ailgychwyn ar ddydd Llun 11 Ionawr. Bydd mesurau diogelwch yn parhau i unrhyw ddysgwr neu aelod o staff pe bai angen iddynt, mewn amgylchiadau cyfyngedig, ddod i’r ystafell dosbarth neu’r swyddfa.
Diolch am eich cymorth fel arfer yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Cadwch yn ddiogel ac yn iach,
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth