Murlun Lliwgar Bron Wedi’i Gwblhau yng Nghanolfan Dydd Blaen y Coed
4-Medi-2025Mae murlun bywiog ‘wal ryfeddod’ a grëwyd gan ddysgwyr Addysg Oedolion Cymru (AOC) mewn partneriaeth â Gwasanaethau Dydd Ynys Môn bron wedi’i gwblhau. Mae’r prosiect gwaith celf cymunedol mawr hwn, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddydd Blaen y Coed, wedi cymryd dros 18 mis i’w greu, ac mae’n dathlu harddwch naturiol a llên gwerin Ynys Môn. Mae wedi’i ysbrydoli gan y gerddi hardd ble mae wedi’i leoli, ochr yn ochr â thirnodau lleol arwyddocaol gan gynnwys Trwyn Penmon a rhinweddau hudolus a deniadol Niwbwrch, ac mae’n rhoi sylw i chwedl Santes Dwynwen.
Fe wnaeth y prosiect, dan arweiniad Karen Ball, tiwtor AOC, ddod â dysgwyr ynghyd i ddylunio a chreu’r ‘wal ryfeddod’ ym Mlaen y Coed. Mae Blaen y Coed yn ganolfan ddydd i gleientiaid ag anawsterau dysgu, awtistiaeth, anableddau corfforol ac anghenion cymorth yn ymwneud ag iechyd meddwl gan gynnwys gorbryder. Mae’r holl ddysgwyr yn aelodau o’r gymuned sy’n byw ym mhob cwr o Ynys Môn.
Ynghylch gweithio gyda’r dysgwyr a chreu’r ‘wal ryfeddod’, dywedodd Karen y tiwtor:
“Rydym wedi cael llawer o adborth calonogol gan y dysgwyr a’u teuluoedd ynghylch y cyrsiau rydym wedi’u cynnal yn y ganolfan. Mae pawb yn falch iawn o’u cyfraniad at y murlun mawr. Mae’r dysgwyr wedi gweithio’n galed iawn, ac wedi amlygu dyfalbarhad, amynedd a sgiliau i wireddu’r murlun. Mae’n wych gweld y dysgwyr yn magu hyder – hyder ynddynt hwy eu hunain a hyder yn eu sgiliau artistig. Mae wedi bod yn hyfryd cael adlewyrchu diwylliant a threftadaeth y gymuned drwy sicrhau bod Santes Dwynwen yn ganolbwynt i’n murlun.”
“Mae’r dysgwyr wedi cyfrannu’n helaeth at ddylunio a chreu’r murlun. Fe wnaethant gychwyn trwy greu eu dyluniadau eu hunain yn yr ystafell ddosbarth cyn eu hehangu i’w peintio ar y wal fawr. Roedd y prosiect yn brofiad dysgu gwerthfawr yn ogystal â champwaith artistig. Roedd yn ofynnol i’r dysgwyr ddatblygu sgiliau ymarferol yn ymwneud â gwaith tîm, iechyd a diogelwch, cynllunio ac addasu eu gwaith.”
Er mwyn cynorthwyo’r dysgwyr, fe wnaeth Karen addasu ei sesiynau i sicrhau y gallai pob dysgwr gyfrannu, gan gynnwys y rhai sy’n cyfathrebu’n ddieiriau a’r rhai sydd ag anghenion cyfathrebu eraill. Gan ddefnyddio ap arbenigol ar iPads, gallai’r dysgwyr ddewis eu lliwiau a’u dyluniadau eu hunain, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
I’r dysgwyr, roedd y prosiect yn gyfle i amlygu eu hunaniaeth fel unigolion a’u creadigrwydd:
Dywedodd Carl: “Roeddwn i’n hoffi gweithio i greu’r darluniau o fywyd morol ar y murlun. Ond y cloc yw fy hoff ran o’r murlun.” Fe wnaeth Dezni gynnwys ei diddordeb angerddol mewn natur ac anifeiliaid: “Rwyf wrth fy modd â chathod, ac roeddwn i’n hoffi eu cynnwys yn y murlun ac fe wnes i ddylunio rhai o’r blodau a’r gloÿnnod byw,” ac fe wnaeth Lisa adael i’w dychymyg ei helpu i lunio ei chyfraniad: “Roedd peintio’r wal yn brofiad difyr. Roeddwn i’n hoffi peintio’r teigr yn fwy na dim. Mae’n eistedd yn y goeden hud.”
I weithwyr cymorth y dysgwyr, roedd yn ysbrydolgar gweld y murlun yn ehangu o ran lliw a dychmyg oherwydd creadigrwydd a syniadau’r dysgwyr:
“Mae prosiect y ‘wal ryfeddod’ wedi bod yn brofiad mor gyfoethog i’r holl dîm ym Mlaen Y Coed. Fe wnaethant droi waliau gwyn yn ddelwedd liwgar” meddai Sue.
“Wrth weithio ar y ‘wal ryfeddod’ gyda’r unigolion a thrwy’r cymorth anhygoel gan Karen, fe wnaethom ni ddysgu llawer iawn o dechnegau gan ddefnyddio paent, defnyddio stensiliau a llawer iawn mwy,” ychwanegodd Tom.
Mae’r bartneriaeth rhwng Addysg Oedolion Cymru a Gwasanaethau Dydd Ynys Môn yn parhau i dyfu a datblygu, gan gynnig rhagor o gymorth i ddysgwyr. Yn ogystal â’r murlun mawr, mae dysgwyr wedi gweithio i ddatblygu prosiectau personol llai megis drychau mosaig a chreu eu darnau celf eu hunain. Mae’r darnau unigol hyn yn eu helpu i feithrin hunan-barch a hyder yn eu galluoedd artistig.
Ychwanegodd Annabel Bohana, Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm AOC ar gyfer Ynys Môn:
“Mae Karen, fel tiwtor, wedi cysylltu’n wirioneddol â’r ganolfan a’r dysgwyr, ac mae ei llafur, ei hymrwymiad a’i brwdfrydedd yn hollol amlwg. Mae hi wedi defnyddio ei sgiliau a’i phrofiad helaeth fel artist ac fel tiwtor cymunedol i sicrhau y gallai’r dysgwyr gyflawni’r prosiect ac wedi’i rannu’n adrannau llai fel y gallai dysgwyr weld eu cynnydd yn digwydd, ac mae hynny’n wirioneddol bwysig. Mae gan Karen ddawn naturiol i sicrhau y bydd pob dysgwr yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac mae hi’n fedrus iawn o ran ei gallu i weithio’n wahaniaethol i ddiwallu anghenion unigol dysgwyr. Gwnaed yr holl waith yn hwyliog, felly roedd y sesiynau yn ddifyr iawn i bawb.”
“Rydym hefyd wrth ein bodd yn cael cydweithio â Gwasanaethau Dydd Ynys Môn a thîm Canolfan Ddydd Blaen y Coed – mae’n waith partneriaeth gwych.”
Disgwylir cwblhau murlun y ‘wal ryfeddod’ erbyn diwedd yr haf, Mae’n cyfleu ymdeimlad o gymuned a chydweithio, ac yn defnyddio grym celf i ysbrydoli pobl a meithrin cysylltiadau rhyngddynt. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Addysg Oedolion Cymru a’r bartneriaeth â Gwasanaethau Dydd Ynys Môn, cysylltwch â Zara Walton zarawalton@ynysmon.llyw.cymru neu Annabel Bohana annabel.bohana@addysgoedolion.cymru





Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth