Meithrin Llonyddwch: Sut Mae Un Tiwtor Celf yn Cefnogi Lles Drwy Ddysgu Creadigol
23-Mai-2025Yn Addysg Oedolion Cymru, mae dosbarthiadau celf yn fwy na dim ond cyfle i ddysgu technegau newydd, maent yn cynnig cyfle lle gall dysgwyr ymlacio, mynegi eu hunain, ac ailgysylltu gyda’u potensial creadigol. Dan arweiniad y tiwtor profiadol ac uchel ei barch Lawrence Mathias, mae un dosbarth o’r fath yng Ngweithdy Dove ym Manwen, wedi dod yn enghraifft ddisglair o sut y gall dysgu creadigol wella lles.
Amgylchedd o Anogaeth a Chefnogaeth
Mae sesiynau Lawrence yn sefyll allan nid yn unig am ansawdd yr addysgu artistig ond am yr awyrgylch mae’n ei feithrin. Mae ei ddull tawel, o beidio barnu yn rhoi tawelwch meddwl i ddysgwyr o’r eiliad maent yn dod i mewn i’r ystafell. Gydag anogaeth dyner a diddordeb gwirioneddol yn nhaith greadigol pob unigolyn, mae Lawrence wedi creu cyfle lle mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel i archwilio, arbrofi a thyfu. Mae’r ystafell yn llawn ffocws a sgwrsio tawel, a sïon creadigrwydd. Nid yw’n anarferol i ddysgwyr wneud sylwadau ar sut mae eu hwyliau’n gwella ar ôl pob sesiwn, neu sut mae’r dosbarth wedi eu helpu i reoli straen a phryder. Dywed Lawrence, ‘Rwy’n gobeithio bod fy sesiynau wedi rhoi ymdeimlad o les a gwerthfawrogiad i ddysgwyr o’r hyn y gall celf ei gynnig i’w bywydau. Mae’n fraint cynnig arweiniad i oedolion mewn pwnc rwyf wir yn ei fwynhau’.
Cynnydd Go Iawn, Effaith Go Iawn
Mae effaith dull Lawrence yn amlwg yn y cynnydd mae dysgwyr wedi’i gwneud – nid yn unig o ran sgiliau technegol ond o ran hyder a hunangred. Dechreuodd rhai dysgwyr y cwrs gydag ychydig iawn o brofiad blaenorol; nawr, mae llawer yn cynhyrchu gwaith nad oeddent byth yn meddwl ei fod yn bosibl.
Mae Lawrence yn teilwra ei addysgu i gyflymder a diddordebau pob unigolyn, gan ddathlu camau bach a cherrig milltir ar hyd y ffordd. Mae’r gefnogaeth bersonol hon wedi helpu dysgwyr i ail-ymgysylltu gydag addysg, meithrin gwydnwch, a hyd yn oed ystyried astudiaeth bellach neu arddangosfeydd.
Siaradodd dysgwyr yn gynnes am yr effaith mae’r dosbarth celf wedi’i gael ar eu lles. I Christine, “yn dilyn profedigaeth, mae mynychu’r dosbarth hwn yn fy atal rhag teimlo’n unig.” Rhannodd Susan ei bod yn “braf cwrdd gyda grŵp o bobl o’r un anian, ac mae cael tiwtor sy’n barod i dreulio amser go iawn gyda ni yn werth y byd.” Ychwanegodd Lorraine fod y sesiynau’n “gymorth i ymdawelu a fy helpu i ganolbwyntio, yn enwedig gan fod gen i ddyletswyddau gofalu.” Disgrifiodd eraill sut mae’r grŵp wedi tyfu i fod yn “grŵp o ffrindiau” a sut maent wedi “datblygu mwy o hyder, ac nad ydynt yn teimlo mor ynysig mwyach.” Dywedodd un dysgwr, “rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol ers dechrau’r cwrs yma, ac rydym yn parhau gyda’n gwaith celf ar ôl mynd adref.”
Yn ogystal ar sesiynau wythnosol, mae dysgwyr yn edrych ymlaen at fynychu ymweliadau addysgol cysylltiedig drwy gydol mis Awst a dychwelyd i’r dosbarth ym mis Medi, i barhau gyda’u taith greadigol o dan ofal Lawrence.
Model ar gyfer Lles Drwy Ddysgu
Mae dosbarth Lawrence yn dyst i rym dysgu oedolion i fedru trawsnewid bywydau, nid yn unig yn academaidd, ond yn emosiynol ac yn gymdeithasol. Trwy amynedd, empathi ac arbenigedd, mae Lawrence nid yn unig wedi adeiladu mwy na dosbarth, mae wedi adeiladu cymuned lle mae dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a’u hysbrydoli. Mae ei waith yn ein hatgoffa pan gaiff dysgu ei feithrin gyda gofal, mae wir yn medru newid bywydau. Mae’r ŵyl Creative Climate a ddatblygwyd gan Lawrence ar y cyd gyda rheolwr Parc Gwledig Maenor Scolton, yn ddigwyddiad celfyddydol ac amgylcheddol a gynhelir ar y 5ed-6ed Gorffennaf yn y parc yn Sir Benfro. Mae’r ŵyl ar agor i bawb, gan gynnwys dysgwyr Addysg Oedolion Cymru, ac mae’n cynnig rhaglen fywiog yn cynnwys artistiaid, cerddorion, perfformwyr a gweithgareddau Cymraeg a gyflwynir mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Sir Benfro. Chwaraeodd Lawrence ran allweddol yn natblygiad cychwynnol yr ŵyl, gan greu cysylltiad naturiol rhwng y digwyddiad a’i waith parhaus mewn celfyddydau cymunedol ac addysg.






Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth