Meithrin Hyder ym meysydd Saesneg a Sgiliau Digidol dan ofal MAD Abertawe | Addysg Oedolion Cymru

Meithrin Hyder ym meysydd Saesneg a Sgiliau Digidol dan ofal MAD Abertawe

10-Gorffennaf-2026
Rhannu

Drwy allu cyrchu amgylchedd croesawgar Hwb Gofod Diogel a Chroeso Cynnes MAD Abertawe, fe wnaeth JR, sy’n un o drigolion y ddinas, ganfod y cymorth yr oedd ei angen arno i wella ei sgiliau digidol a’i hyfedredd yn y Saesneg. Diolch i’r bartneriaeth rhwng MAD Abertawe ac Addysg Oedolion Cymru, gall trigolion Abertawe, megis JR, gyrchu adnoddau hanfodol i feithrin eu hyder a gwella eu set sgiliau, gan eu helpu i ymgartrefu a ffynnu yn eu cymunedau. 

Mae JR yn mynychu Hwb Gofod Diogel a Chroeso Cynnes MAD Abertawe ar ôl profi ynysigrwydd cymdeithasol, sgiliau cyfyngedig yn y Saesneg a diffyg hyder i ddefnyddio technoleg. Drwy’r ganolfan, mae wedi cael amgylchedd croesawgar, diodydd poeth a bwyd, a defnydd rheolaidd o gyfrifiaduron a Wi-Fi, sydd wedi ei helpu i deimlo’n fwy parod i ymgysylltu â gwasanaethau a chymorth. Mae’n cyfranogi’n sylweddol ym mywyd ei gymuned ac yn gwirfoddoli bob nos Wener yn EYST, gan gynorthwyo cymheiriaid â’u sgiliau yn y Saesneg, ond mae’n teimlo na all wneud rhagor o gynnydd oherwydd byddai’n well gan y grŵp gael tiwtor proffesiynol. 

Yn ystod sgyrsiau un ac un, esboniodd JR ei fod yn dymuno gwella ei Saesneg llafar ac ysgrifenedig er mwyn cyfathrebu ag ysgol ei blentyn, trefnu apwyntiadau meddygol, a maes o law, chwilio am waith. Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo’n bryderus ynglŷn â defnyddio cyfrifiaduron a ffonau clyfar i wneud pethau mwy cymhleth nag anfon negeseuon sylfaenol. Gyda’n gilydd, fe wnaethom nodi’r angen am gymorth ym maes ESOL, sgiliau digidol ymarferol, a chamau dilynol pendant tuag at gyfleoedd dysgu mwy ffurfiol drwy Addysg Oedolion Cymru. 

Fe wnaeth staff MAD Abertawe gynorthwyo JR i sefydlu a defnyddio cyfrif e-bost, dysgu sut i bori’r rhyngrwyd yn ddiogel a chyrchu gwasanaethau cyhoeddus allweddol ar-lein. Fe wnaethom ganfod adnoddau ESOL a digidol sy’n addas i ddechreuwyr, gan gynnwys cynnwys fideo ac ymarferion rhyngweithiol, a dangos i JR sut i gyrchu’r rhain yn annibynnol ar gyfrifiaduron yr hwb ac ar ei ffôn clyfar ei hun. Fe wnaeth y sesiynau un ac un byr a rheolaidd ganolbwyntio ar dasgau syml a chyraeddadwy megis ymarfer teipio, atodi dogfennau, a chyfranogi mewn cyfarfodydd ar-lein. 

Wrth i JR fagu mwy o hyder, fe wnaethom rannu gwybodaeth am gyrsiau ESOL a sgiliau digidol lleol sy’n cael eu cynnig gan Addysg Oedolion Cymru. Fe wnaeth cynrychiolwyr MAD Abertawe gwrdd â Beth John o Addysg Oedolion Cymru, a gyda’i gilydd, fe wnaethant nodi y gellid cysylltu JR a grŵp o ddynion sydd â diddordeb mewn dosbarthiadau ESOL yn MAD Abertawe â darpariaeth leol. Cynorthwywyd JR a’i grŵp i gysylltu â Jackie Amey yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i gael asesiad, a gweithiodd Addysg Oedolion Cymru i hwyluso’r llwybr hwn fel y gall JR a’i gymheiriaid gyrchu darpariaeth ESOL briodol wrth barhau i gael cymorth yn MAD Abertawe. 

Mae taith JR yn amlygu grym y bartneriaeth rhwng MAD Abertawe ac Addysg Oedolion Cymru, sy’n creu cyfleoedd i gynorthwyo dysgwyr trwy wahanol lwybrau dysgu. Drwy gydweithio, mae’r bartneriaeth yn cynnig cymorth cydfuddiannol sy’n meithrin twf personol hirdymor er budd dysgwyr yn ninas Abertawe. Mae stori JR yn un o’r nifer o ddulliau cydweithredol sy’n cynnig sgiliau newydd ar draws gwahanol lwyfannau, gan helpu i ddatgloi eu potensial. Wrth i’r bartneriaeth hon barhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn, mae’n parhau i fod yn borth hanfodol i ddysgwyr yn Abertawe, gan eu helpu i gamu tuag at ddyfodol mwy cysylltiedig trwy law addysg oedolion a thechnoleg ddigidol. 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth