Mae’r tiwtor ESOL yn Abertawe, Nia Williams, yn rhannu straeon dau ddysgwr sydd wedi cofleidio eu dosbarthiadau Saesneg gydag Addysg Oedolion Cymru. | Addysg Oedolion Cymru

Mae’r tiwtor ESOL yn Abertawe, Nia Williams, yn rhannu straeon dau ddysgwr sydd wedi cofleidio eu dosbarthiadau Saesneg gydag Addysg Oedolion Cymru.

15-Rhagfyr-2025
Rhannu

Ymunodd Azamat Astakhov ag Addysg Oedolion Cymru (AOC), yn Abertawe, ym mis Ionawr 2024 fel Dysgwr Lefel Mynediad 3 Rhan-amser. Gwnaeth gwblhau a phasio ei dystysgrifau Lefel 1 Llawn Amser City and Guilds ym mis Mehefin 2025 – cyflawniad anhygoel mewn cyfnod mor fyr. Yn sicr, cofleidiodd ei astudiaethau gydag AOC, ac mae ei gyflawniadau yn ganlyniad i waith caled ac ymrwymiad.

Cysylltodd Azamat yn ddiweddar i esbonio byddai’n rhaid iddo roi’r gorau i’r dosbarthiadau Lefel 2 Rhan-amser gan ei fod llwyddo wrth chwilio am swydd, a bydd yn dechrau gweithio’n llawn amser i Gyngor Abertawe.

Dyma beth ysgrifennwyd ganddo:

“Bu fy nghyrsiau Saesneg gyda AOC yn gymaint o gymorth i mi wrth chwilio am swydd, diolch i’r sgiliau ymarferol a gefais. Aethom drwy bynciau penodol fel sut i ddisgrifio fy sgiliau a fy ngalluoedd, sut i ysgrifennu negeseuon e-bost at gyflogwyr, a sut i gynnal sgwrs. Dysgom hefyd y gwahaniaeth rhwng iaith ffurfiol ac anffurfiol. Diolch i’r cwrs, datblygodd fy sgiliau Saesneg yn fwy bywiog a naturiol. Roedd hyn yn gymorth i mi ysgrifennu llythyr cais da a deall sut i gyfathrebu’n iawn gyda darpar gyflogwyr. Rhoddodd y paratoad hwn sylfaen gadarn i mi a gwnaeth i mi deimlo’n fwy hyderus o’r dechrau.”

“Roedd yr hyder hwn yn ddefnyddiol iawn yn ystod y cyfweliadau. Cefais tua deg ohonynt, a phob tro roeddwn yn teimlo’n fwy sicr ohonof fy hun. Defnyddiais y sgiliau or gwersi yn weithredol: ceisiais siarad mewn trefn resymegol, cysylltu fy syniadau’n llyfn, a defnyddio ymadroddion mwy cymhleth i swnio’n glir ac yn naturiol. Parhaodd fy rhuglder Saesneg i wella, ac yn y diwedd, rwy’n sicr mai dyna fu’n gymorth i gael swydd yn y diwedd. Diolch yn fawr i Nia, Sandra, a holl staff AOC!’

Sylw Nia amdan Azamat:

“Rydym yn hynod o falch ohonot Azamat, ac yn gwybod y byddwch yn ased i Dîm Gweithiol Sbwriel/Ailgylchu, Adran Gwastraff Cyngor y Ddinas. Arddechog, dal ati – mae Azamat hefyd yn dysgu Cymraeg i ychwanegu at ei set sgiliau!”

Dysgwr arall, sydd nid yn unig wedi bod yn llwyddiannus mewn arholiadau ond hefyd wrth chwilio am swydd, yw Kseniia Bratkova. Ymunodd gyda’r dosbarth Lefel 1 yn 2024 gan gwblhau Darllen Lefel 2 ym mis Gorffennaf 2025. Mae hi hefyd yn mynd ati i ddysgu gyda phenderfyniad ac yn ychwanegu geirfa at ei llyfr nodiadau yn gyson!

Ysgrifennodd Kseniia:

“Fy enw i yw Kseniia. Rwy’n dod o Wcráin. Rwyf wedi bod yn byw yn Abertawe ers bron i 3 blynedd. Rwyf eisiau rhannu fy mhrofiad o ddod o hyd i swydd yn Abertawe.”

“Ers i ni ddod i Abertawe ac ymgartrefu, rwyf wedi dysgu llawer. Roedd yn gyfnod anodd a llawn straen. Nid yw’n hawdd deall sut mae unedau ar wahân yn gweithio mewn gwlad dramor. Ond diolch byth, roeddwn yn ffodus i gael fy nerbyn gan goleg AOC ar gyfer dosbarth ESOL. Rwy’n meddwl mai dyna oedd fy nhocyn lwcus ac yn allwedd i ddeall diwylliant gwahanol ar lefel sy’n fy ngalluogi i ddatblygu’n esmwyth a gyda chefnogaeth wych.”

“Yn ddiamau, rwyf wedi cwrdd gyda’r tiwtoriaid gorau a phobl garedig a deallus o wahanol siroedd a chenedligrwydd. Ac wrth gwrs, rwyf wedi meithrin hyder mewn iaith. Rwy’n meddwl mai un o’r tasgau mwyaf heriol i bob ffoadur yw dod o hyd i swydd. Rhaid i mi gyfaddef bod ymdrechion fy athrawon i gyflwyno gramadeg a sgiliau siarad â’r dysgwyr yn enfawr.”

“Mae’r iaith Saesneg yn sail i’ch llwyddiant wrth chwilio am swydd. Cymerodd bron i 3 blynedd i mi ddod o hyd i’m swydd gyntaf yma ac rwy’n hynod falch bod fy nghyfweliad wedi mynd yn dda a fy mod wedi cael cynnig oriau gwaith yn y sector addysg fel cynorthwyydd addysgu. Rwy’n credu’n gryf bod coleg yn arwain y ffordd at integreiddio i gymdeithas a dysgu ieithoedd mor hawdd ag y gall fod.”

Sylw Nia amdan ei dysgwyr:

Diolch i chi eich dau am gymryd yr amser i rannu eich profiadau am y gwersi Saesneg.

Gobeithio, trwy ddarllen ychydig o straeon llwyddiant, y bydd Dysgwyr yn eich plith yn cael eu hysbrydoli a’u hannog i ‘barhau i fynd’ hyd yn oed ar y dyddiau pan fyddwch yn flinedig. Fel dywedaf wrth fy nosbarthiadau, ‘gwthiwch y drws ar agor’, weithiau dyna’r rhan anoddaf. Mae bob amser yn bleser eich gweld chi!

Nia Williams

Tiwtor ESOL, Abertawe.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth