Mae’r tiwtor dwyieithog Andrea Woods, sy’n rhan o’r tîm cwnsela yn Wrecsam yn gweithio’n rhagweithiol i ymgorffori’r Gymraeg yn adnoddau’r cwrs! | Addysg Oedolion Cymru

Mae’r tiwtor dwyieithog Andrea Woods, sy’n rhan o’r tîm cwnsela yn Wrecsam yn gweithio’n rhagweithiol i ymgorffori’r Gymraeg yn adnoddau’r cwrs!

16-Gorffennaf-2024
Rhannu

Mae’r llwybr cwnsela yn Wrecsam yn cynnig cyfle i ddysgwyr symud ymlaen o L2 – hyd at Ddiploma Lefel 4 mewn cwnsela – a phryd hynny gallent weithio fel cwnselydd yn y gymuned.

Mae galw mawr am gwnselwyr cymwys ledled Cymru oherwydd:-

  • Mae gan y gymuned ehangach ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen am iechyd meddwl cadarnhaol
  • Mae gostyngiad yn y stigma sy’n gysylltiedig gyda chael cymorth sydd wedi golygu bod mwy o bobl yn estyn allan am gymorth am wahanol resymau.
  • Creodd pandemig Covid 19 hefyd ôl-groniad enfawr o bobl yn aros am gwnsela yn ogystal â chael effaith aruthrol ar unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Mae cael cwnselwyr a all adlewyrchu anghenion y gymuned ehangach yn hynod o bwysig. Gwyddom fod aelodau’r gymuned yn aml yn troi’n ôl ar eu hiaith gyntaf wrth siarad am drawma, emosiynau neu faterion personol – felly mae’n bwysig bod ein dysgwyr cwnsela yn deall anghenion cleientiaid dwyieithog / amlieithog ac yn gwerthfawrogi gallent fod yn siarad am faterion pwysig yn eu hail iaith.

Mae cael Andrea fel tiwtor dwyieithog o fewn y tîm cwnsela yn ein helpu i (a bydd yn parhau i helpu yn y dyfodol)

  • Farchnata a recriwtio dysgwyr Cymraeg eu hiaith sydd eisiau bod yn gwnselwyr.
  • Cefnogi dysgwyr di-Gymraeg / Cymraeg ar y llwybr cwnsela i ddeall yn well a chefnogi anghenion aelodau o’r gymuned sy’n siarad Cymraeg i gael mynediad i gwnsela – ac ymgyfarwyddo gyda rhai geiriau / ymadroddion syml ac ati y gallent eu defnyddio yn eu gwaith wrth symud ymlaen.

Dywed Sarah O’Connell Jones, rheolwr rhanbarthol Gogledd Cymru, “Mae cael Andrea yn rhan o’n tîm o diwtoriaid cwnsela yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’n wych gweld adnoddau dysgu dwyieithog yn cael eu datblygu. Mae gennym hefyd ddysgwyr sy’n siaradwyr Cymraeg sy’n gallu sgwrsio gydag Andrea i egluro’r dysgu yn y Gymraeg – gan sicrhau bod gennym gynnig gweithredol gwirioneddol.”

Dywed Andrea y tiwtor, “Mae’n fraint cael bod yn rhan o daith y dysgwyr wrth iddynt ennill sgiliau achredu a mynediad, nad oedden yn meddwl fod ganddynt. Cefais anogaeth gan AOC i chwalu rhwystrau iaith ac ofnau drwy ymgorffori’r Gymraeg. Rwy’n sicrhau bod hwn ar gael i’n dysgwyr wrth addysgu’r grŵp cyfan a thrwy sesiynau tiwtorial un-i-un. Teimlaf fod hyn yn adlewyrchu ymhellach mai AOC yw’r coleg heb furiau a’i fod yn darparu tu hwnt i ffiniau’r ystafelloedd dosbarth mewn iaith, dysgu a chyfleoedd ledled Cymru. Caf anogaeth gan fy nhîm i rannu arfer da a syniadau gyda chydweithwyr er mwyn magu hyder. Mae’r wên ar fy wyneb yn dweud y cyfan pan fyddaf yn cael fy nghyfarch yn Gymraeg gan fyfyrwyr fy nosbarth, lle mae’r Gymraeg yn drydedd iaith iddynt.”

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth