Mae’n rhaid i Ddysgu Oedolion fod yn rhan o ddyfodol Cymru
22-Mai-2026
Mae’r cadarnhad diweddar o’r buddsoddiad o fwy na £1 biliwn mewn addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru yn foment bwysig i ddysgwyr, darparwyr a chymunedau ledled y wlad. Wrth i Gymru barhau i ddatblygu system addysg drydyddol fwy cysylltiedig drwy Medr, mae hefyd yn gyfle i fyfyrio ar y rôl mae dysgu gydol oes yn ei chwarae yn nyfodol Cymru.
Yn rhy aml, dim ond drwy lens cymwysterau neu gyflogaeth caiff dysgu oedolion eu hystyried. Mae’r pethau hynny’n bwysig, ond mae effaith dysgu yn cyrraedd ymhellach o lawer. Ar draws Cymru, mae dysgu oedolion yn helpu pobl i ailadeiladu hyder, gwella lles, datblygu sgiliau newydd ac i deimlo’n fwy cysylltiedig gyda’u cymunedau.
Yn Addysg Oedolion Cymru, gwelwn yn ddyddiol sut mae dysgu cymunedol yn creu cyfleoedd mewn ffyrdd ymarferol ac annisgwyl. Trwy ystod eang o gyfleoedd dysgu a chymwysterau proffesiynol, mae dysgwyr yn datblygu sgiliau hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, yn gwella hyder digidol, yn dysgu Saesneg neu’r Gymraeg, yn archwilio diddordebau creadigol ac yn symud ymlaen i feysydd fel cwnsela, gofal plant, gwaith ieuenctid ac arweinyddiaeth gymunedol.
I lawer o ddysgwyr, mae’r cam cyntaf yn ôl i ddysgu hefyd yn gam tuag at fwy o hyder a chysylltiad.
Mewn cyfnod o newid cymdeithasol, economaidd a thechnolegol cyflym, nid yw dysgu gydol oes erioed wedi bod yn bwysicach. Mae dysgu oedolion yn cefnogi datblygu’r gweithlu, cynhwysiant digidol, lles a chyfranogiad cymunedol, wrth ddarparu cyfleoedd hyblyg sy’n canolbwyntio ar y dysgwr ac i weddu i le mae rhywun wedi cyrraedd yn eu bywyd.
Wrth i system addysg drydyddol Cymru esblygu, mae’n bwysig bod dysgu gydol oes a chymunedol yn parhau i fod yn ganolog i’r weledigaeth honno. Mae dysgu oedolion yn newid bywydau mewn ffordd gadarnhaol yn ddyddiol ledled Cymru, ac mae ei heffaith yn cyrraedd ymhell y tu hwnt i’r ystafell dosbarth.
Os rydym eisiau cymunedau hyderus, twf cynhwysol a chyfleoedd sy’n cyrraedd pob rhan o’r gymdeithas, rhaid i ddysgu oedolion barhau i fod yn rhan o ddyfodol Cymru.
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth