Mae Simon Conlin yn rhannu ei brofiad addysgol yn nigwyddiad Canmlwyddiant Raymond Williams heddiw.
5-Gorffennaf-2021Mynychodd llawer o bobl ein digwyddiad Canmlwyddiant Raymond Williams, ‘Pwrpas Cymdeithasol mewn Addysg Oedolion’, i ddathlu genedigaeth a gwaddol Raymond Williams, gan adeiladu ar ein papur Esboniwr (Explainer) a ysgrifennwyd yn gynharach eleni.
Yn ystod y digwyddiad Pwrpas Cymdeithasol mewn Addysg Oedolion, archwiliwyd meddwl beirniadol Raymond Williams lle mae addysg yn gwneud cyfraniad hollbwysig- efallai hanfodol – i’r gymdeithas. Roedd hyn yn cynnwys ffyrdd y mae addysg yn ein helpu i uniaethu â’n gilydd yn effeithiol, deall sut mae ein cymdeithas yn gweithio, deall ein hawliau a’n cyfrifoldebau fel dinasyddion, i weithio gyda’n gilydd, i adeiladu ein cymunedau ac i wynebu heriau gyda’n gilydd, fel newid hinsawdd ac anghydraddoldeb.
Rhannodd ein pedwar siaradwr gwadd eu profiadau gan danlinellu sut mae addysg oedolion wedi effeithio a siapio eu bywydau personol a gwaith. Gwahoddwyd un o’n tîm yn Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales – Simon Conlin – i fod yn siaradwr gwadd yn y digwyddiad hwn, pan rannodd sut y cafodd ei fagu heb fawr o anogaeth i ddilyn addysg, ond roedd ganddo awydd i gyflawni mwy.
Dywedodd Simon, “Rwy’n dod o gefndir dosbarth gweithiol lle nad oedd addysg bellach ac uwch erioed yn opsiwn i’m teulu. Ni chafodd fy rhieni’r cyfleoedd hynny erioed ac ni chefais fy annog erioed i ddilyn llwybr addysg bellach neu uwch. Cefais amryw o swyddi di-grefft mewn ffatrïoedd a siopau. Roeddwn i’n gwybod fy mod eisiau mwy ond roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n rhy hwyr gan fod fy addysg ysgol tra yn yr ysgol wedi fy niffinio.”
“Fe wnes i ddod o hyd i gyfle i ddysgu gyda’r nos ar ôl gwaith gyda CAG De Cymru fel yr oedd ar y pryd. Cwblheais gymhwyster ac enillais waith cyflogedig gyda’r sefydliad ar brosiect a newidiodd hyn gyfeiriad fy mywyd. Mae addysg oedolion wedi rhoi cyfle i mi ennill cymwysterau perthnasol, sgiliau gwerthfawr y gellir eu rhoi ar waith yn fy mywyd gwaith a phersonol, ynghyd â chyfleoedd i astudio yn y brifysgol, gyrfa ac awydd i wella fy hun yn ogystal â helpu eraill i wneud yr un peth.”
Rwyf wedi gweithio i Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales ers 14 mlynedd ac wedi mwynhau cefnogi dysgwyr, tiwtoriaid a chydweithwyr. Mae fy awydd i helpu eraill wedi cael ei ddefnyddio’n dda gan fy mod i wedi gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am 4 blynedd fel Diffoddwr Tân wrth gefn sy’n gwasanaethu fy nghymuned.”
Hoffem longyfarch Simon ar ei waith caled a’i gyflawniadau a diolch iddo am ei gyfraniad i’r digwyddiad heddiw.
I ddarganfod mwy am etifeddiaeth Raymond Williams, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth