Mae ein tiwtor Sian Valentine, sy’n dysgu sut i Drefnu Blodau yn Llai Wrecsam, yn rhannu gwaith hyfryd gan ei dysgwyr ynghyd a’u hadborth gwych. . .
20-Chwefror-2023Mae ein tiwtor blodau hynod o brofiadol Sian Valentine, sy’n dysgu sut i Drefnu Blodau yn Llai Wrecsam, yn rhannu ychydig o wybodaeth amdani ei hun, a hefyd gwaith hyfryd gan ei dysgwyr ynghyd a’u hadborth gwych. . .
Dywed Sian wrthym, “Roeddwn wedi bod yn werthwr blodau ers 15 mlynedd yn Ne Affrica, yn gweithio mewn lleoliadau priodas ac mewn siopau blodau. Yna symudais i’r DU yn 2015, a mynychu’r brifysgol am bedair blynedd yn astudio iechyd meddwl a lles a chymhwyster ôl-raddedig mewn addysgu. Felly, mae rhoi’r ddau at ei gilydd a gallu dysgu be rwyf wrth fy modd yn ei wneud yn bleserus iawn!
Mae ein sesiynau yn hamddenol iawn, ac mae’r dysgwyr yn cael cyfle i ddefnyddio eu dychymyg pan maent yn gwneud eu creadigaethau. Ceir paneidiau a sgyrsiau yn y sesiynau hefyd, ynghyd a thrafodaethau wythnosol am yr hyn yr hoffent ei ddysgu. Rwy’n hoffi bod fy nysgwyr yn cymryd rhan yn y broses a’u bod yn cael mewnbwn i ddatblygiad y cwrs.
Yn ystod y cwrs deg wythnos Trefnu Blodau i ddechreuwyr, maent wedi dysgu’r hanfodion ar sut i baratoi blodau. Canolbwyntir ar gyfrannau, meintiau a chymesuredd yn y trefniadau. O hyn maent yn dysgu sut i wneud tuswau wedi’u clymu a sut i lapio’r rhain fel anrhegion. Fel dilyniant, gall ein dysgwyr fynd ymlaen i astudio ar gwrs manylach sy’n cynnwys mwy o ddyluniadau artistig, blodau priodas, trefniadau parti ac arddull celf blodau ar gyfer cystadlaethau.
Dysgwyr Sian yn Wrecsam greodd y trefniadau blodau hardd hyn:
Dywedodd rhai o ddysgwyr Sian wrthym,
“Rwy’n mwynhau’r cwrs, mae Sian yn esbonio popeth yn dda ac mae’n llawn anogaeth. Mae dysgu technegau newydd a dod o hyd i syniadau i fynd adref a gweithio arnynt yn wych!” Christine Baugh
“Cwrs pleserus iawn! Mae mor ddiddorol dysgu technegau gwahanol o drefnu blodau a defnyddio amrywiaethau lliw.” Gail Jones
“Rwyf wedi mwynhau’r cwrs gosod blodau yn fawr, cael dysgu rhywbeth gwahanol bob wythnos, ac edrychaf ymlaen at bob sesiwn! Mae Sian mor ddiddorol ac addysgiadol!” Julie Allen
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o waith ein dysgwyr ar ein tudalen Facebook.
Hoffem longyfarch y dysgwyr am greu gwaith mor brydferth ag edrychwn ymlaen at weld mwy o greadigaethau blodau wrth iddynt barhau gyda’r cwrs!
Os hoffech ddarganfod mwy am ein cyrsiau, cliciwch yma.
Ariennir y cwrs hwn trwy DOG (dysgu oedolion yn y gymuned)
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth