Mae ein dysgwyr yn Rhanbarth y De-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi bod yn creu amrywiaeth o decstilau hyfryd!
9-Tachwedd-2021Mae ein dysgwyr yn Rhanbarth y De-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi bod yn creu amrywiaeth o decstilau hyfryd drwy gydol y pandemig, yn ein dosbarthiadau Crefft ar-lein, ac yn fwyaf diweddar, maent wedi bod yn dysgu sut i wneud eitemau Nadoligaidd. Cyflwynwyd ein dysgwyr i ystod o sgiliau tecstilau gan gynnwys ffeltio, gwnïo, gwau, clytwaith, cwiltio a llawer mwy!
Mae’r dysgwyr wedi gwneud amrywiaeth o luniau gyda amrywiol themâu, gan ddefnyddio technegau ffeltio gwlyb a ffeltio nodwydd. Ar ôl perffeithio eu techneg ffeltio gwlyb, aethant ymlaen at ffeltio nodwydd, lle dysgont sut i wneud amrywiaeth o eitemau yn barod ar gyfer tymor y Nadolig, o fôblau i ddynion eira a hyd yn oed corachod!
Yn ystod gwersi, mae’r dysgwyr hefyd wedi ymarfer sut i addasu dillad sy’n rhy hir neu fyr. Dysgant sut i fewnosod sip a gwneud twll botwm a thechnegau amrywiol wrth wneud pocedi. Mae’r gwersi gwnïo syml hyn hefyd wedi rhoi sgiliau i’n dysgwyr wneud pob math o greadigaethau, gan gynnwys ceirw 3D, sliperi o ddeunydd a hefyd blychau ffabrig. Yn ogystal â gwnïo, mae ein dysgwyr wedi gallu crosio, cynhyrchu pabïau, addurniadau Nadolig a dynion eira 3D.
Maent hefyd wedi datblygu eu sgiliau gwau, gan symud ymlaen o bwythau gwau a phwrl, i bwythau strwythuredig, ceblau, les, ‘fairisle’, ‘intarsia’, gwau gyda gleiniau a llawer mwy o dechnegau. Mae’r dysgwyr gwau canolradd wedi dysgu sut i ddarllen patrwm a chynhyrchu eitemau. Cynhyrchodd y dysgwyr hyn ddyn eira 3D wedi’i wau a hefyd dafad 3D.
Yn ogystal â gwau, maent wedi rhoi cynnig ar glytwaith a chwiltio. O fewn y cwrs clytwaith, cynhyrchodd y dysgwyr ganolbwynt bwrdd 3D wedi’i blygu, matiau bwrdd caban pren troellog a chlytwaith a sgertiau coed wedi’u cwiltio.
Mae dysgwyr yn ein dosbarthiadau Uwchgylchu wedi ymgymryd â phrosiectau lle maent wedi gallu cynhyrchu blychau rhoddion craceri Nadolig gan ddefnyddio tiwbiau creision ‘Pringle’, dynion eira 3D yn gwisgo siaced o flanced cnu wedi’u hailgylchu, coed Nadolig 3D, picsis tair troedfedd o uchder yn gwisgo ffrog denim gyda 25 poced yr Adfent, a chreadigaethau dyfeisgar eraill.
Gwnaethant ystod eang o gynhyrchion ac eitemau defnyddiol i’r cartref a hefyd anrhegion i ffrindiau a theulu. Darperir y gwersi ar gyfer dechreuwyr hyd at bobl brofiadol ym maes crefft.
Mae dysgwyr wedi gallu gwneud ffrindiau a gwella neu ddysgu sgil newydd ac mae llawer wedi magu hyder trwy gefnogi ei gilydd, a fu’n gymorth i bawb gyda’u lles cyffredinol. Roedd y gwersi wythnosol yn achubiaeth gymdeithasol i rai yn ystod y pandemig, ac mae llawer o ddysgwyr wedi gwerthfawrogi’r amser yma i gymdeithasu.
Mae ein tiwtor Maria wedi trosglwyddo ei gwybodaeth helaeth a’i sgiliau trwy ystod o wersi crefft. Mae wedi cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau tecstilau sydd wedi arwain at amrywiaeth hyfryd o gynhyrchion a wnaed gan ei dysgwyr.
Mae’r dysgwyr wedi mynegi eu diolch i Maria wrth iddynt ennill sgiliau creadigol a chael datblygu mewn gofod cefnogol gan roi adborth hynod o gadarnhaol:
Dywed un o’n dysgwyr, Lesley, “Roeddwn eisiau gadael i chi wybod faint mae eich dosbarthiadau ar-lein yn helpu gyda fy iechyd meddwl. Mae mynychu eich dosbarthiadau yn rhoi’r cymhelliant i mi godi o’r gwely yn y bore. Rwy’n ei chael hi’n haws cilio a neilltuo os rhoddir y dewis i mi, ond pan fyddaf yn gwybod bod gen i ddosbarth rwy’n codi o’r gwely, yn paratoi ac yn trefnu. Mae paratoi ac eiddgarwch ar gyfer y dosbarth nesaf yn rhoi rhywbeth i mi ganolbwyntio arno y tu allan i amser y wers. Os na fyddaf yn cymryd rhan mewn sgyrsiau, er fy mod yn gwneud hynny fel rheol, mae bod mewn awyrgylch lle mae eraill yn sgwrsio a chithau yn rhoi cyfarwyddiadau neu esboniadau, weithiau dro ar ôl tro, yn therapiwtig i mi ac yn fy nhawelu. Rwy’n gwerthfawrogi eich amser ac amynedd.”
Ychwanegodd Chrissy, “Hoffwn ddiolch i Addysg Oedolion Cymru|Adult Learning Wales a Maria am gynnal y dosbarthiadau gan eu bod wedi bod yn achubiaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn o bandemig. Rwy’n byw mewn ardal wledig ac wedi fy ngwahanu, oherwydd pellter oddi wrth deulu a llawer o ffrindiau, felly mae unigedd yn real. Mae’r dosbarthiadau wedi bod yn gyfle i’w groesawu er mwyn fy helpu i ymdopi, oherwydd fy mod newydd ymddeol a heb gael y cyfle i adeiladu rhwydwaith gweithgaredd/cymorth newydd. Mae wedi bod yn hyfryd cwrdd ag eraill sydd gyda diddordeb cyffredin mewn gwaith crefft, rhannu sgiliau gyda phobl ar draws Cymru, gan roi safbwyntiau newydd ac ymdeimlad o gynhesrwydd a chydweithrediad. Mae’r ffocws ar sgiliau wedi helpu fy lles meddyliol, wedi darparu dihangfa a rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas.”
Dywed ein tiwtor Maria Parry-Jones, “Mae dysgu ar-lein wedi rhoi cyfle i lawer o ddysgwyr siarad gyda rhywun yn ystod yr 18 mis diwethaf. Nid yw rhai dysgwyr wedi gweld unrhyw deulu na ffrindiau. Nawr mae ganddynt grŵp newydd o ffrindiau na fyddent wedi cwrdd â nhw yn flaenorol. Mae’r cyrsiau wedi helpu ein dysgwyr gyda’u hiechyd a’u lles yn ystod yr amser anodd hwn. Mae gan rai o’r dysgwyr anableddau symudedd amrywiol ac mae gweithio ar-lein wedi bod yn ffordd hyfryd o ddysgu. Ni fyddai rhai yn medru mynychu cyrsiau gan nad ydynt yn gyrru.”
Hoffem longyfarch pob un o’n dysgwyr Crefft ar greu gwaith mor hyfryd â hefyd estyn ein diolchgarwch i’n tiwtor Maria am drosglwyddo ei gwybodaeth a’i sgiliau creadigol sylweddol!
I weld mwy o’r crefftau gwych a grëwyd gan ein dysgwyr, ewch i’n halbwm Facebook yma.
Os ydych wedi cael eich ysbrydoli gan y creadigaethau a wnaed yn y cyrsiau hyn ac eisiau darganfod mwy am ein cyrsiau Tecstilau, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth