Mae ein dysgwyr SSIE (ESOL) wedi bod yn datblygu eu sgiliau darllen er mwyn medru helpu eu plant! | Addysg Oedolion Cymru

Mae ein dysgwyr SSIE (ESOL) wedi bod yn datblygu eu sgiliau darllen er mwyn medru helpu eu plant!

22-Tachwedd-2021
Rhannu

Mae ein tiwtor SSIE (ESOL), Clare Jones, wedi bod yn cyflwyno cwrs Dysgu Teulu i’n dysgwyr ESOL ar y cyd gyda’n Partner, Canolfan Gymunedol Affricanaidd sydd wedi’i leoli yn yr Adain Gelf, Theatr Fawr Abertawe.

Yn ystod y gwersi, mae’r dysgwyr wedi gallu datblygu eu sgiliau darllen, ysgrifennu a chyfathrebu, ochr yn ochr â dealltwriaeth o sut mae eu plant yn dysgu, a sut y gall rhieni annog a pharatoi eu plant ar gyfer yr ysgol. Ymhlith y gweithgareddau yn ystod y dosbarthiadau mae darllen a thrafod llyfrau plant, dysgu a chanu hwiangerddi mewn Saesneg ac ieithoedd brodorol, a gwneud gemau syml a gweithgareddau creadigol ar gyfer eu plant.

Mae ein tiwtor Clare yn defnyddio llyfrau plant, nid yn unig i archwilio ac annog darllen ar y cyd rhwng rhieni a’u plant, ond hefyd i gynhyrchu llu o gyfleoedd ysgrifennu i’w dysgwyr.

 
Dywed Clare, “Mae’r ffocws penodol yn ddiweddar wedi bod ar y llyfr ‘Y Lindysyn Llwglyd Iawn’ gan Eric Carle – enghraifft o lyfr clasurol llenyddiaeth plant mae miliynau o blant a’u teuluoedd wedi ei fwynhau, ers ei gyhoeddiad cyntaf ym mis Mehefin 1969! Dyma lyfr yr wyf yn ei ddarllen a’i ailddarllen yn rheolaidd gyda fy mhlant fy hun! Pleser oedd cael y cyfle i’w rannu gyda grŵp o ddysgwyr nad oeddynt yn gwybod amdano: fe’u swynwyd gan symlrwydd yr iaith a’r darluniadau gwych.”

 

O fynychu’r cyrsiau hyn, mae’r dysgwyr yn magu hyder wrth ddefnyddio’r iaith Saesneg ac maent yn dechrau gwneud ffrindiau gyda mamau eraill wrth rannu a dysgu o brofiadau ei gilydd fel rhieni.

Dywed ein tiwtor Clare Jones, “I mi, mae fy nosbarth ‘ESOL ar gyfer Dysgu Teulu’ yn uchafbwynt yr wythnos! Rydym yn cael cymaint o hwyl trwy ein gweithgareddau dysgu.”

  

Mae’r bartneriaeth rhwng Rhanbarth y De-orllewin a’r Canolbarth gyda Chanolfan Gymunedol Affricanaidd yn un sydd wedi’i hen sefydlu ac ennill ei phlwyf. Rydym yn cyflwyno ystod o gyrsiau ESOL mewn cyd-destun i’w defnyddwyr gwasanaeth, yn cynnwys ‘ESOL ar gyfer Cyflogadwyedd’, i gynorthwyo dysgwyr gyda’u sgiliau chwilio ac ymgeisio am waith. Gweithiwn yn agos gyda Rheolwr Lles y Ganolfan, Sibu Mbwembwe, wrth greu cynnig cwricwlwm amrywiol ac ystyrlon, er mwyn ceisio diwallu anghenion y llu o gleientiaid sy’n cerdded trwy’r drysau. Mae trafodaethau ar y gweill i ymestyn y cynnig cwricwlwm ymhellach ar gyfer 2022, ac edrychwn ymlaen at barhau gyda’n gwaith partneriaeth, i gefnogi a grymuso dysgwyr ar eu taith addysg gymunedol.

Hoffem longyfarch ein dysgwyr am droi i fyny bob wythnos gyda gwên a chymryd rhan mor llawn mewn gwahanol weithgareddau.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein cyrsiau Dysgu Teulu.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth