Mae ein dysgwr Jiyoung Lee wedi defnyddio ein dosbarthiadau Saesneg i’w helpu i gysylltu ag eraill a’u helpu! | Addysg Oedolion Cymru

Mae ein dysgwr Jiyoung Lee wedi defnyddio ein dosbarthiadau Saesneg i’w helpu i gysylltu ag eraill a’u helpu!

12-Mawrth-2024
Rhannu

Daw Jiyoung Lee o Dde Corea ac mae’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy ei gwaith gyda York Place, Eglwys y Bedyddwyr. Cyn hynny roedd hi’n gweithio yn yr Eglwys Corea. Mae hi wedi astudio aromatherapi ac yn defnyddio ei gwybodaeth i gefnogi pobl o wahanol genhedloedd trwy ddysgu iddynt y wahanol ffyrdd y gall aromatherapi helpu eu h’iechyd meddwl a chorfforol. Mae hi wedi byw yn Abertawe a Llundain ers bron i 7 mlynedd a dechreuodd ddosbarthiadau Saesneg gydag Addysg Oedolion Cymru ym mis Ionawr 2024. Mae’n defnyddio Saesneg yn ei sesiynau aromatherapi.

Dywed Jiyoung Lee, “Rwy’n aromatherapydd. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn defnyddio olewau hanfodol a hefyd, rydw i eisiau helpu pobl gyda’r hyn sydd ei angen arnyn nhw. Mae gan yr aromatherapi fanteision iechyd ac emosiynau. Mae gen i gyfarfod bob dydd Iau gyda rhai ceiswyr lloches. Rwy’n darparu aromatherapi emosiynol ac yn gwneud rhai ryseitiau fel olew poen, olew llygaid, olew cysgu dwfn ac ati. Hefyd yn gwneud balm gwefusau, canhwyllau, ffresnydd aer. Maent yn mwynhau’r dosbarth hwn yn fawr. Maen nhw’n dysgu am yr olewau hanfodol a sut i’w defnyddio.”

Da iawn Jiyoung!

Os hoffech chi ddarganfod mwy am ein dosbarthiadau Saesneg, cliciwch yma: www.adultlearning.wales/cym/amdanom/cyrsiau/esol 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth