Mae ein dysgwr ESOL Mynediad 1, Sergio Costa Oliveira, yn rhannu ei brofiad dysgu gyda ni ac yn dweud beth sy’n ei ysgogi i annog eraill.
8-Chwefror-2024
Ar ôl treulio chwe blynedd yn y DU, ymunodd ein dysgwr ESOL Mynediad 1, Sergio Costa Oliveira ag un o’n cyrsiau ESOL, ac mae Sergio yn ddigon caredig i ddweud ei stori wrthym.
Dywed Sergio, “Rwy’n dod yn wreiddiol o Frasil. Rwy’n 49 oed a symudais i’r DU yn 2018 gyda fy nheulu, sy’n cynnwys fy ngwraig a dau fab. Mae fy meibion yn siarad Saesneg yn rhugl ac yn bwriadu mynd i’r Brifysgol eleni. Fodd bynnag, nid oes gan fy ngwraig na minnau ddigon o hyfedredd Saesneg i wneud hynny eto.
Ar hyn o bryd, dim ond myfyriwr Saesneg ydw i yn nosbarth Mynediad 1 ESOL Sadiah bob dydd Mercher ac yn cymryd rhan mewn cwrs dysgu cymunedol ar-lein gan Brifysgol Abertawe am awr bob dydd.”
Dywedodd ein tiwtor Sadiah Ali, “Ymunodd Sergio gyda fy nosbarth Mynediad 1 ESOL ym mis Tachwedd 2023. Mae ei ymrwymiad i ddatblygu ei sgiliau Saesneg ymhellach wedi bod yn galonogol tu hwnt. Mae’n mynychu pob gwers gydag agwedd gadarnhaol ac mae bob amser yn dangos parodrwydd i gydweithio gyda’i gyd-fyfyrwyr.”
Mae Sergio yn parhau, “Rwyf yn ddefnyddiwr datblygedig o offer TG fel Canva (ar gyfer dylunio graffeg a golygu fideo), Audacity (ar gyfer golygu sain), ac offer meddalwedd a deallusrwydd artiffisial amrywiol ar gyfer cerddoriaeth a chreu lleferydd gan ddefnyddio lleisiau niwral. Gyda’r offer yma y llwyddais i greu’r fideo. Fy mwriad cychwynnol oedd ysbrydoli fy nghydweithwyr i beidio rhoi’r gorau iddi, gan fod dysgu Saesneg yn daith hir. Dylent barhau i ddysgu. Fodd bynnag, ar ôl myfyrio ymhellach, credaf fy mod hefyd eisiau profi i mi fy hun y gallaf ei wneud. Rwy’n fyw, a dyw hi byth yn rhy hwyr!”
Dywedodd ein tiwtor Sadiah Ali, “Mae Addysg Oedolion Cymru yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu, datblygu a gwella’n barhaus. Mae’r cwrs ESOL yn galluogi myfyrwyr i wella eu rhagolygon gyrfa a goresgyn rhwystrau cymdeithasol heriol. Mae wedi bod yn bleser mawr cael Sergio yn fy nosbarth, fel llawer o’m myfyrwyr mae’n dangos ymrwymiad llwyr i ddatblygu ei sgiliau ymhellach.”
Hoffem ddiolch i Sergio am rannu ei stori ac ysbrydoli eraill gyda’i fideo a’i foeseg o weithio’n galed. Dymunwn yn dda iddo gyda’i astudiaethau parhaus.
Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth am ESOL, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth