Mae ein dysgwr Amanda Rees wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Dysgu Oedolion Ysbrydoli! 2023!
2-Mai-2023Mae ein dysgwr Amanda Rees wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Dysgu Oedolion Ysbrydoli! 2023 am fod yn gaffaeliad gwych i’w gwersi ac am iddi barhau i ddysgu gyda ni ers 2017! Mae ei thiwtor Liz Marriott yn dweud wrthym pam ei bod wedi enwebu Amanda. . .
Dywed ein tiwtor Liz, “Mae Amanda wedi cymryd rhan yn y sesiynau i grŵp o fenywod sy’n astudio Llythrennedd ac Iechyd a Lles ers 2017. Mae gan Amanda wir ddiddordeb ac angerdd am bob math o ddysgu, ac mae wir yn ffynnu mewn unrhyw amgylchedd dysgu.
Mae ein sesiynau presennol wedi canolbwyntio ar “Baratoi ar gyfer y dyfodol” a oedd yn cynnwys edrych ar nodau personol a gwaith/gwirfoddoli ar gyfer y dyfodol. “Gwirfoddoli,” a ystyriodd sawl agwedd ar rôl gwirfoddolwr. Roedd yn edrych hefyd ar sut y gall gwirfoddoli ddarparu profiadau gwerthfawr ar gyfer gwaith cyflogedig yn y dyfodol, a hefyd hyrwyddo lles. Mae Amanda bob amser wedi cefnogi dysgwyr eraill, er nad yw bob amser yn gallu mynychu cyrsiau penodol oherwydd ei hamgylchiadau personol. Ar ddiwedd y rhan fwyaf o sesiynau bydd Amanda yn gofyn am “waith cartref” fel y gall chwilio am ragor o wybodaeth i gefnogi’r cwrs presennol. Mae Amanda yn gaffaeliad gwirioneddol i’r cwrs ac i’r dysgwyr eraill, nid yn unig oherwydd ei diddordeb aruthrol mewn dysgu, ond hefyd ei gallu i gefnogi pob dysgwr arall yn eu bywydau dysgu a phersonol.
Ceir llawer o amrywiaeth yn y grŵp ac mae llawer o anghenion penodol sy’n gofyn am gefnogaeth, yn ymarferol ac yn emosiynol, a gynhigir gan Amanda ym mron pob sesiwn. Mae Amanda wedi wynebu llawer o anawsterau oherwydd ei dyslecsia a’i hanawsterau dysgu, ond mae wedi gweithio’n ddiflino i oresgyn y rhain dros y 5 mlynedd diwethaf. Yn ogystal, cafodd Amanda fachgen bach ym mis Medi 2022. Parhaodd i gadw mewn cysylltiad gyda’r grŵp ar ôl yr enedigaeth, er bod ganddi faban newydd-anedig a merch 11 oed. Byddai’n gofyn am waith i’w wneud gartref gan ei bod eisiau cadw i fyny gyda’r hyn roeddem yn ei wneud. Cyn gynted ag yr oedd ei phartner mewn sefyllfa i ofalu am y baban, dychwelodd Amanda i bob sesiwn a gweithio o amgylch ei bywyd personol gan wneud y dosbarthiadau yn un o’i blaenoriaethau.
Credaf y bydd Amanda yn cyflawni ei nod o ddod yn Gynorthwyydd Cymorth Dysgu mewn Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae’n parhau i ganolbwyntio ar y sgiliau a’r cwrs y mae angen iddi astudio i wneud cais am hyfforddiant pellach yn y maes hwn. Er efallai na fydd hyn yn digwydd am rai blynyddoedd, defnyddia Amanda yr amser hwn i weithio tuag at ei dyfodol ac mae ganddi gynllun clir iawn ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth. Byddai Amanda yn aelod gwerthfawr o staff mewn unrhyw ysgol, ac yn gefnogaeth enfawr i unrhyw unigolyn bydd yn gweithio gyda!”
Hoffem longyfarch Amanda ar ei gwaith caled a dymuno’n dda iddi gyda’r enwebiad!
Os hoffech dderbyn gwybodaeth am ein cyrsiau Llythrennedd neu Iechyd a Lles, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth