Mae ein cyrsiau creadigol wedi helpu un dysgwr i frwydro yn erbyn ei boen
17-Tachwedd-2021Mae ein dysgwr Jane Johnston wedi dysgu amrywiaeth o sgiliau creadigol gan gynnwys ffeltio, crosio, gwau, gwnïo a gwneud rygiau. Rhanna Jane ei phrofiad o ddysgu ar-lein a sut mae ei sgiliau newydd wedi helpu i newid ei meddwl yn ystod cyfnodau o boen . . .
Dywed Jane, “Roeddwn yn athrawes am dros 26 mlynedd cyn datblygu anabledd. Mae’r dosbarthiadau ar-lein yma wedi caniatáu i bobl ag anableddau, fel fi, fynychu’n rheolaidd. Yn fy achos i, ni fyddai hyn wedi digwydd pe na baent ar-lein. Mae’r dosbarthiadau nid yn unig wedi dysgu sgiliau newydd i mi, rwyf yn eu defnyddio i wella fy nghartref a gwneud anrhegion gwerthfawr i’m teulu, ond yn bwysicach fyth, maent wedi gwella fy iechyd meddwl yn aruthrol.
Cyn cychwyn y dosbarthiadau, roeddwn wedi treulio cymaint o amser yn fy nhŷ ar fy mhen fy hun, ac o ganlyniad, roedd fy hunan-barch wedi plymio a fy mhryder wedi codi. Nawr rwy’n strwythuro fy nyddiau o amgylch fy nosbarthiadau. Mae gen i ffrindiau yn y dosbarthiadau ac edrychaf ymlaen at sgwrsio gyda nhw wrth wneud gwaith crefft. Rwy’n ailddarganfod fy hunan-barch ac rwy’n ddiolchgar i’m tiwtor Maria am hynny. Mae hi’n gwneud y dosbarthiadau mor bleserus. Mae’n taro cywair y gwersi’n dda, ac mae’n gwrando ar ein barn ac ein syniadau. Rwy’n teimlo’n ddiogel yn y dosbarthiadau, ac mae Maria yn ddeallus ac yn ofalgar iawn; mae hi bob amser yn gallu synhwyro pan nad wyf yn cael diwrnod da. Ni feddyliais erioed y byddwn yn gallu gwneud pethau mor greadigol; dydw’i ddim yn meddwl gwnaeth fy nheulu chwaith – maent i gyd yn edrych ymlaen yn eiddgar i mi bostio fy nghreadigaethau diweddaraf ar-lein!
Hoffwn hefyd rannu’r bonws personol annisgwyl rwyf wedi’i gael o fynychu’r cyrsiau hyn – rwy’n dioddef llawer o boen oherwydd nad yw signalau yn medru teithio o fy ymennydd i’r nerfau a’r cyhyrau. Darganfyddais fy mod yn medru tynnu sylw fy ymennydd i ffwrdd o hyn drwy wneud gweithgaredd ailadroddus pleserus e.e. gwau, ac mae hyn yn lleihau’r boen. Mae’r cyrsiau yn amhrisiadwy, ac rwy’n gobeithio gwneud mwy yn y dyfodol.”
Hoffem ddiolch i Jane am ei hadborth, ac rydym yn falch fod ymuno gyda’r gwersi yn gwneud gwir wahaniaeth ac yn ei chefnogi.
I chwilio am gwrs creadigol, cliciwch yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth