Mae ein Cydlynydd Datblygiad Digidol, Sarah K Jones yn dweud wrthym am y dyletswyddau gwirfoddoli mae wedi bod yn eu cyflawni!
19-Mehefin-2024
Mae ein Cydlynydd Datblygiad Digidol, Sarah K Jones yn dweud wrthym am y dyletswyddau gwirfoddoli mae wedi bod yn eu cyflawni! Mae’n dweud wrthym “Yn 2016, a minnau eisiau herio fy hun, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd dechreuais fynydda a dringo creigiau. Trwy ffrindiau deuthum yn ymwybodol o Achub Mynydd a’r gwaith hanfodol maent yn ei wneud. Er i mi edmygu’r timau am eu gwaith anhunanol (a’r cyfan yn gwbl wirfoddol) ac ystyried pa mor werth chweil yw’r gwaith, wnes i erioed ddychmygu y gallwn fod yn addas neu’n gymwys i wneud y fath beth. Fodd bynnag, cefais anogaeth gan ffrind sy’n wirfoddolwr gydag un o’r timau lleol i wneud cais, ac roeddwn wrth fy modd pan gefais fy nerbyn yn 2017 i Dîm Achub a Chwilio De Eryri (SSSART). Ychydig a wyddwn ar y pryd fy mod yn cael fy nerbyn i ‘deulu’ bendigedig a rôl wirfoddol fyddai’n dod yn rhan enfawr o fy mywyd.
Trwy gydol fy amser yn SSSART, rwyf wedi bod yn ffodus i ddysgu set helaeth ac amrywiol o sgiliau. Rwyf wedi cymhwyso fel Technegydd Achub gyda Rhaff, Gofalwr Anafedig (cymhwyster meddygol sy’n galluogi aelodau ardystiedig i roi triniaeth achub bywyd i berson anafedig mewn amgylcheddau anghysbell), Gyrrwr Ymateb Golau Glas, gyrrwr 4×4 oddi ar y ffordd, Technegydd Chwilio ac Arweinydd Parti. Yn y blynyddoedd diwethaf rwyf hefyd wedi hyfforddi fel ‘cydlynydd galwadau’, rôl sy’n cydlynu’r ymateb i alwad e.e. anfon aelodau’r tîm, casglu gwybodaeth a chysylltu gyda’r asiantaethau amrywiol eraill a’r gwasanaethau brys.
Mae pob tîm achub mynydd yn elusen annibynnol sy’n cael ei rhedeg gan yr aelodau, ac rwy’n chwarae rhan yn hyn ar gyfer SSSART fel Swyddog TG y tîm, sydd wedi cynnwys e.e. adeiladu a chynnal gwefan y tîm, gosod wi-fi yng ngherbydau’r tîm a rheoli systemau TG y tîm.
Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi mentro i fyd Achub Mynydd. Fel y gallech ddychmygu, mae’n rôl wirfoddol ymroddedig sy’n cymryd llawer o amser, ond mae’r cyfleoedd a’r profiadau a gefais hyd yma wedi bod yn anhygoel, yn werthfawr ac yn rhoi boddhad mawr. O roi gofal meddygol i gerddwr sydd wedi anafu ar y bryniau, cario stretsier ochr yn ochr gyda fy nghyd-weithwyr, gyrru Land Rover y tîm i fyny trac oddi ar y ffordd er mwyn cyrraedd rhywun sydd wedi anafu cyn gynted ag sydd bosibl, cynorthwyo o dan y ddaear i achub mewn mwynglawdd neu’r tasgau gweinyddol a chymennu yn ein canolfan, byddaf yn ddiolchgar am byth am y cyfleoedd rwyf wedi’u cael drwy Achub Mynydd. Rwyf wedi trysori’r cyfeillgarwch, a hyd yn oed wedi cyfarfod fy mhartner drwy’r tîm.
Os hoffech weld ein tîm a thimau Achub Mynydd eraill Gogledd Cymru ar waith, cymerwch olwg ar ‘SOS Extreme Rescue’ ar BBC iPlayer; cyfres a ryddhawyd yn gynharach eleni am sut mae gwasanaethau brys Gogledd Cymru yn gweithredu mewn partneriaeth i gynorthwyo pobl mewn trallod. Mae’r criwiau camera hefyd wedi dychwelyd atom eleni, gan ymuno gyda ni ar alwadau er mwyn ffilmio ar gyfer Cyfres 2.
Fel y soniwyd yn gynharach, mae pob tîm Achub Mynydd yn elusen annibynnol, yn gwbl ddibynnol ar roddion elusennol er mwyn iddynt barhau i weithredu. Yn ogystal â mynychu galwadau a hyfforddiant wythnosol mae’r aelodau hefyd yn gyfrifol am godi arian, gan gynnwys mynychu digwyddiadau codi arian, ac ati.
Felly, achubaf ar y cyfle yma i ofyn i chi ystyried cefnogi eich tîm achub mynydd lleol gyda chyfraniad neu mewn unrhyw ffordd arall.”

Hoffem longyfarch Sarah ar ei gwaith caled!
Ydych chi erioed wedi meddwl am fod yn wirfoddolwr ond ddim yn siŵr ble i ddechrau, gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn Gwirfoddoli Cymru lle gellir cofrestru i dderbyn mwy o wybodaeth. Does ddim rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun, fel tîm gallech drefnu gweithgaredd gwirfoddoli gyda’ch gilydd ar brosiect lleol.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth