Mae dysgwyr yng Ngogledd Cymru yn gwella eu Sgiliau Hanfodol gyda chefnogaeth Addysg Oedolion Cymru | Addysg Oedolion Cymru

Mae dysgwyr yng Ngogledd Cymru yn gwella eu Sgiliau Hanfodol gyda chefnogaeth Addysg Oedolion Cymru

21-Mehefin-2024
Rhannu

Mae rhaglen Sgiliau Hanfodol Addysg Oedolion Cymru yn cynnig cyfle i ddysgwyr wella eu sgiliau rhifedd a llythrennedd i lefel a gydnabyddir gan fwyafrif helaeth y colegau a phrifysgolion yng Nghymru fel cymhwyster cyfwerth â gradd A-C TGAU mewn Mathemateg neu Saesneg Iaith. Nid yw’r rhaglenni hyn yn ymwneud â dysgu yn unig; maent yn medru newid bywydau drwy hybu hyder, creu cyfleoedd newydd yn y gwaith a hefyd yn y cartref a datblygu sgiliau ychwanegol mewn meysydd eraill, megis technoleg ddigidol.

Mae tiwtoriaid Sgiliau Hanfodol Addysg Oedolion Cymru, Sue Jones ac Ann Jones, yn cyflwyno sesiynau ar-lein i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd. Mae’r dysgwyr yn ymuno gyda’r sesiynau ar-lein unwaith yr wythnos ac yn dilyn cwrs sydd wedi’i deilwra ar gyfer eu hanghenion. Mae dysgwyr yn mwynhau’r cwrs ac yn gweld bod y fformat ar-lein yn eu galluogi i weithio’n hyblyg o amgylch ymrwymiadau eraill. Ers dechrau’r cyrsiau, maent wedi gwella eu sgiliau a’u hyder mewn ystod o dasgau ac wedi cael cefnogaeth y tiwtoriaid i gyflawni unedau achrededig gydag Agored Cymru. 

Mae tair enghraifft o sut mae Rhaglen Sgiliau Hanfodol Dysgu Oedolion Cymru wedi helpu dysgwyr yng Ngogledd Cymru i’w gweld isod. Am resymau cyfrinachedd, cyfeirir at y dysgwyr gyda’r blaenlythrennau JK, KJ ac AR.

Mae JK yn mynychu sesiynau wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Byd Gwaith (JCP). Mae ganddi anawsterau dysgu cymedrol (MLD), hunan-barch isel ac mae’n cael trafferth gyda’i hyder. Ei hasesiad cychwynnol yn y Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ar gyfer cyfathrebu oedd E2; fodd bynnag, gyda phenderfyniad cryf, mae bellach wedi cyrraedd E3, ond mae hefyd yn dangos elfennau o L1 ac L2 mewn rhai agweddau. Er mwyn ei helpu ei hunan i symud ymlaen, prynodd Chrome Book, nad oedd ar y pryd yn medru ei ddefnyddio. Rydym wedi gweithio ar ei sgiliau TG, a nawr mae’n medru defnyddio peiriannau chwilio a chyrchu’r pecyn WEST ond hefyd ateb e-byst, creu ffeiliau, llwytho i lawr, golygu ac arbed ffotograffau. Mae wedi cynhyrchu ei CV ei hun gan ddefnyddio dogfen Word ar ôl dysgu sut i fewnosod blychau testun a phwyntiau bwled, a dewis arddull ffont a maint. Stori lwyddiant go iawn!

Mae’r dysgwr KJ wedi mynd o fod heb achrediad i fod yn achrededig mewn Llythrennedd a Rhifedd. Mae wedi cael trafferth gyda sillafu a gramadeg ond mae’n gweld bod amynedd y tiwtoriaid a hyblygrwydd dysgu ar-lein yn addas iddo ac wedi rhoi’r hyder iddo symud ymlaen a chyflawni sawl uned Agored yn y ddau bwnc. Mae hefyd wedi elwa o ddefnyddio dyfeisiau a MIFI gan AOC i allu cael mynediad at y cyrsiau.  

Mae’r dysgwr AR wedi mynychu cyrsiau Llythrennedd ar-lein a Rhifedd wyneb yn wyneb. Mae wedi cael trafferth gyda materion iechyd meddwl difrifol a hunan-barch isel ond mae wedi gwneud cynnydd mawr, yn gyntaf mewn Llythrennedd ac yn fwy diweddar mewn Rhifedd. Mae wedi cyflawni sawl uned mewn Llythrennedd ac wedi siarad am sut mae’r cwrs wedi rhoi hyder iddo a ffocws cadarnhaol yn ei fywyd.

Mae dysgwyr KJ ac AR wedi gwneud cynnydd rhagorol mewn llythrennedd digidol ochr yn ochr â’u Llythrennedd a Rhifedd gan fod yn rhaid iddynt ddefnyddio dyfeisiau, MS TEAMS a meddalwedd i gael mynediad i’r cyrsiau.  

Mae dilyniant a llwyddiant y tri dysgwr hyn o’r rhaglen Sgiliau Hanfodol yn dangos pa mor effeithiol gall dysgu gydag Addysg Oedolion Cymru fod. Rhan fach yn unig yw esiampl y tri dysgwr o’r cannoedd o ddysgwyr sy’n datblygu eu rhifedd a’u llythrennedd bob blwyddyn gyda chefnogaeth Addysg Oedolion Cymru. Isod ceir adborth pellach gan ddysgwyr eraill sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen Sgiliau Hanfodol:

“Rwyf wedi dysgu llawer o bob gwers am sut i ddod o hyd i’r sillafu cywir a sut i ychwanegu geiriau i wneud brawddegau sy’n gwneud synnwyr. Mae Sue (tiwtor) mor amyneddgar ac yn dangos dealltwriaeth wrth roi cymorth i mi gyflawni’r hyn rwyf yn dymuno. Rwyf hefyd wedi mwynhau a chwblhau uned lefel 1. Mae’r wers ar-lein yn dda gan y gellir ei gwneud gartref.”

“Ar fy nghwrs Rhifedd ar-lein, rwyf wedi cwblhau pynciau gwahanol fel adio, tynnu ac arian. Mwynheais gwblhau’r uned achrededig a dysgu’r sgiliau angenrheidiol. Mae Ann (tiwtor) yn deall sut i wneud pethau’n haws i mi, ac mae ganddi ffyrdd effeithiol o egluro’r pynciau mathemategol.”

“Rwy’n mwynhau’r sesiynau ac mae’n rhoi ffocws da i mi ar rywbeth cadarnhaol. Mae gan y tiwtor bersonoliaeth hwyliog ac mae’n gwneud y sesiynau’n bleserus yn ogystal ag yn addysgiadol. Rwy’n hoffi fformat hyblyg y sesiynau ar-lein. Rwyf wedi gwneud llawer o gynnydd ers i mi ddechrau, ac wedi cwblhau unedau mewn Mathemateg a Saesneg, gan symud i fyny’r lefelau a magu hyder.”

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am y cyrsiau Sgiliau Hanfodol mae Addysg Oedolion Cymru yn eu cynnig, anfonwch e-bost at Jane Watkins yn jane.watkins@adultlearning.wales neu ymwelwch gyda’r wefan yn www.addysgoedolion.cymru/cyrsiau-cymunedol-yn-glanio/sgiliau-hanfodol-ac-esol/

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth