Mae dysgwyr Emerge Community Arts yn croesawu Wythnos Addysg Oedolion | Addysg Oedolion Cymru

Mae dysgwyr Emerge Community Arts yn croesawu Wythnos Addysg Oedolion

19-Medi-2025
Rhannu

Mae ein dysgwyr talentog gyda Chelfyddydau Cymunedol Emerge wedi dechrau eu cwrs Celfyddydau Mynegiannol newydd sbon yn ddiweddar trwy eistedd i lawr gyda’u tiwtoriaid i gasglu syniadau am yr hyn yr hoffent ei archwilio eleni i wella eu lles, datblygu eu sgiliau cyfathrebu a meithrin hyder. O ddysgu offerynnau ac ysgrifennu caneuon i actio, dawnsio, celf a hyd yn oed gwneud fideos cerddoriaeth – roedd y creadigrwydd a’r brwdfrydedd yn yr ystafell yn anhygoel!

I ddathlu Wythnos Addysg Oedolion, gofynnwyd i’n dysgwyr beth maent yn edrych ymlaen ato fwyaf:

 Alec: “Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu eleni. Rwy’n mynd i ddysgu sut i ganu a bydd hyn yn gymaint o hwyl!”

Gwyn: “Rwy’n mwynhau’r her o ddysgu rhywbeth newydd megis offeryn.”

Mark: “Rwyf wedi dewis dysgu actio a drama gan y bydd yn fy helpu i feithrin hyder.”

Lorna: “Rwyf am wneud ffrindiau newydd a dysgu chwarae iwcalili hefyd.”

Lynn: “Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd!”

 A dyma be ddywed y tiwtoriaid:

Anna: “Er ein bod ni newydd ddechrau, mae ein dysgwyr eisoes yn dangos cymaint o frwdfrydedd. Rwy’n gyffrous i weld yr hyder a’r cyfeillgarwch yn tyfu dros yr wythnosau nesaf.”

Jamie: “Mae dechrau cwrs newydd bob amser yn ysbrydoledig – mae’n gyfle i’n dysgwyr archwilio, creu a dysgu gyda’i gilydd o’r diwrnod cyntaf un.”

Gyda chefnogaeth y Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm sef Gaynor Hanlon, mae Celfyddydau Cymunedol Emerge yn gweithio mewn partneriaeth gydag Addysg Oedolion Cymru i hyrwyddo byw’n annibynnol ynghyd a sgiliau bywyd a gwaith trwy gerddoriaeth, drama ac ysgrifennu creadigol er mwyn cefnogi twf personol.

 Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Gaynor Hanlon ar gaynor.hanlon@adultlearning.wales

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth