Mae Dosbarth Sgwrsio’r tiwtor Clare Jones yn archwilio geirfa am rannau’r corff mewn ffordd hwyliog ac atyniadol. | Addysg Oedolion Cymru

Mae Dosbarth Sgwrsio’r tiwtor Clare Jones yn archwilio geirfa am rannau’r corff mewn ffordd hwyliog ac atyniadol.

25-Ionawr-2024
Rhannu

Mae Dosbarth Sgwrsio’r tiwtor Clare Jones mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Adain Gelfyddydol Theatr y Grand Abertawe wedi bod yn edrych ar eirfa’r corff mewn ffordd hwyliog ac atyniadol.

Defnyddiodd y dysgwyr weithgareddau Wordwall fel man cychwyn, yna gweithgaredd labelu, gan atgyfnerthu’r gwaith gydag ysgrifennu dilynol. Ar gyfer y dasg labelu, rhoddwyd pentwr o labeli gyda gwahanol rannau o’r corff i grwpiau o ddysgwyr iddynt lynu ar wirfoddolwr parod. Roedd hon yn ffordd wych o ymestyn y rhai ag ystod ehangach o eirfa, gan fod pob grŵp dysgwyr yn cael labeli gwag i ysgrifennu geiriau ychwanegol arnynt, ac ar yr un pryd roedd y gweithgaredd yn atgyfnerthu’r dysgu mewn modd hwyliog a drwy ailadrodd.

Da iawn i bawb ac yn arbennig i’r gwirfoddolwyr parod a gymerodd ran yn y gweithgareddau labelu!

 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth