Mae Beth John, Rheolwr Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru, wedi Ymuno gyda Bwrdd Golygyddol Cylchgrawn Dysgu Gydol Oes Ewrop
3-Medi-2025
Mae Addysg Oedolion Cymru yn falch o gyhoeddi bod Rheolwr Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru, Beth John, wedi’i phenodi i fwrdd golygyddol Cylchgrawn ELM (Cylchgrawn Dysgu Gydol Oes Ewrop). Mae’r Cylchgrawn ELM yn gyhoeddiad ar-lein rhad ac am ddim sy’n ymdrin â phynciau cyfredol mewn addysg oedolion a dysgu gydol oes ar gyfer darllenwyr sy’n cynnwys addysgwyr, ymchwilwyr a llunwyr polisi.
Mae Beth, sy’n eiriolwr angerddol dros addysg oedolion, yn ymuno gyda grŵp nodedig o arbenigwyr ac academyddion o bob cwr o Ewrop i helpu i arwain cynnwys y cyhoeddiad a dylanwadu ar y drafodaeth ar ddysgu gydol oes. Bydd rôl newydd Beth yn caniatáu iddi gyfrannu ei phrofiad helaeth mewn datblygu cwricwlwm a’i hymrwymiad i feithrin llwyddiant dysgwyr.
I Beth, mae’r penodiad hwn yn gyfle i hyrwyddo grym trawsnewidiol addysg oedolion ac i ddatblygu perthnasoedd gwaith cryfach gyda’i chyfoedion Ewropeaidd:
“Mae’n anrhydedd enfawr i mi ymuno gyda Bwrdd Golygyddol Cylchgrawn ELM ar adeg sy’n hollbwysig i addysg oedolion ledled Ewrop. Edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â chydweithwyr o bob cwr o’r cyfandir, i barhau ac adeiladu ymhellach ar yr egwyddorion newyddiadurol mae’r Cylchgrawn yn sefyll arnynt – nad yw’r broses addysgol yn dod i ben wrth ddrws yr ysgol, a’i bod yn llunio pobl drwy gydol eu bywydau.”
Fel aelod o fwrdd golygyddol ELM, mae Beth yn awyddus i gydweithio â gweithwyr proffesiynol ledled Ewrop a rhannu mewnwelediadau o’r sector addysg oedolion yng Nghymru. Ei nod yw cynyddu gwelededd y cyhoeddiad ledled Cymru a’r gwledydd cartref eraill, a sicrhau bod ei waith yn cyrraedd cymunedau addysg oedolion amrywiol.
Mae rôl newydd Beth yn dilyn llwyddiant y prosiect llythrennedd rhyngwladol a gydsefydlwyd, ‘Straeon Llythrennedd Dysgwyr: Llyfrgell o Fywyd, Cariad a Cholled.’ Arweinir y fenter unigryw yma ar y cyd gyda’r Athro Dina Soeiro o Brifysgol Bolytechnig Coimbra. Mae’r prosiect yn darparu llwyfan byd-eang i ddysgwyr sy’n oedolion rannu eu straeon trwy arferion creadigol, gan arddangos arwyddocâd arteffactau o berthnasoedd yn y gorffennol. Mae’r wefan yn caniatáu i sefydliadau addysgol ledled y byd lwytho i fyny gwaith eu dysgwyr ar gyfer cynulleidfa ryngwladol.
Drwy ei gwaith gydag Addysg Oedolion Cymru a’i swydd newydd ar fwrdd golygyddol Cylchgrawn ELM, mae Beth yn parhau i ymroi i greu llwybrau i ddysgwyr sy’n oedolion a dathlu eu teithiau rhyfeddol. Llongyfarchiadau Beth!
Am ragor o wybodaeth am ELM ac i ddarllen eu cyhoeddiad diweddaraf, edrychwch ar eu gwefan yma
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth