Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn gweithio’n agos, ar draws Cymru gyfan, gyda sefydliad partner gwerthfawr o’r enw ‘Maximus’ – arweinydd byd-eang yn y sectorau iechyd a chyflogadwyedd.
2-Hydref-2024Mae Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn gweithio’n agos, ar draws Cymru gyfan, gyda sefydliad partner gwerthfawr o’r enw ‘Maximus’ – arweinydd byd-eang yn y sectorau iechyd a chyflogadwyedd. Mae ‘Maximus’ yn cynnig cymorth i bobl ddifreintiedig ledled y wlad, a darpara AOC ystod o gyrsiau Cyflogadwyedd a Sgiliau Bywyd i gleientiaid. O ganlyniad i lwyddiant y cyrsiau hyn ar gyfer cleientiaid Maximus, daethant at AOC i ofyn am ddarpariaeth hyfforddi ar gyfer eu staff yn Abertawe.
Yn ystod haf 2024, ymgymerodd staff yn swyddfa Maximus yn Abertawe’r cymhwyster Lefel 2 ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’, fel rhan o ymrwymiad parhaus Maximus i DPP staff.
Cysylltodd Eleonora Evans, Swyddog Gweithredol Partneriaeth Gymunedol Maximus yn eu Hadran Gyflogadwyedd, gyda thîm Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru AOC i holi ynghylch y posibilrwydd o gael cwrs pwrpasol ar gyfer ei staff, ac ym mis Mehefin, dechreuodd Fee Rodger (Tiwtor Addysg a Hyfforddiant AOC) gyflwyno’r cwrs.
Cyflwynwyd y cwrs mewn modd hybrid (ar-lein ac wyneb yn wyneb) dros gyfnod o 7 wythnos ac roedd yn cynnwys 6 sesiwn ar-lein yn ymdrin gyda damcaniaeth hyfforddi a dysgu, ynghyd â ffocws ar fethodoleg a chynllunio sesiynau. Roedd yna hefyd sesiwn micro-ddysgu wyneb yn wyneb, a oedd yn caniatáu i ddysgwyr roi’r damcaniaethau roeddynt wedi’i ddysgu ar waith, i ganolbwyntio ar feysydd datblygu ar gyfer eu rôl fel hyfforddwyr yn y dyfodol.
Meddai Fee Rodger (Tiwtor Cwrs): “Fe wnes i wir mwynhau addysgu’r cwrs hwn. Roedd yn wych gallu hwyluso taith y dysgwyr, wrth iddynt fagu hyder. Roedd hyn nid yn unig o ran eu gallu i gynllunio a hyfforddi, ond hefyd o ran cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant, a sut y byddai datblygu hyn yn eu cynllunio a’u darpariaeth, yn eu gwneud yn hyfforddwyr llawer gwell yn y dyfodol.”

Dywedodd Michelle Kerswell, Rheolwr Cwricwlwm yn AOC: “Mae Addysg Oedolion Cymru yn falch iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Maximus i gyflwyno’r cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr i’w staff yn Abertawe. Mae gan Addysg Oedolion Cymru a Maximus berthynas sefydledig iawn wrth iddynt gydweithio ers nifer o flynyddoedd, er mwyn darparu ystod o gyrsiau i gleientiaid Maximus ledled Cymru. Mae’r cydweithio llwyddiannus yma yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae Addysg Oedolion Cymru yn hynod fodlon i ymestyn ei gynnig dysgu oedolion i staff Maximus, yn ogystal â chleientiaid Maximus.”
I gael mwy o wybodaeth am Maximus a’r cymorth maent yn ei gynnig i oedolion ledled Cymru, cliciwch ar y ddolen yma: https://whpp.maximusuk.co.uk/wales/
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth