Llythrennedd: mae llawer o ffyrdd i ddysgu
22-Ebrill-2026Gan Kathryn Robson, Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru

Mae’n ddiddorol gweld beth sy’n digwydd yn Sweden, lle mae ysgolion yn dychwelyd at lyfrau, papur a phennau ffisegol mewn ymateb i bryderon ynghylch gostyngiad mewn lefelau llythrennedd. Fel mae sylw diweddar yn ei amlygu, mae’r symudiad eisoes yn sbarduno dadl ynghylch y cydbwysedd cywir rhwng dysgu digidol a thraddodiadol.
Mae’r sgwrs hon yn teimlo’n gyfarwydd ac yn berthnasol oherwydd nid yw yn ymwneud gyda dewis un dros y llall mewn gwirionedd. Mae’n ymwneud â deall beth sy’n gweithio orau i ddysgwyr.
Yn Addysg Oedolion Cymru, mae llythrennedd a sgiliau hanfodol eraill wrth wraidd ein cynnig. Trwy ein hystod eang o gyrsiau, gweithiwn gyda miloedd o oedolion yn flynyddol, ac mae llawer ohonynt yn dychwelyd i ddysgu ar ôl seibiant hir, neu efallai nad ydynt wedi cael profiadau cadarnhaol o addysg yn y gorffennol.
I’r dysgwyr hyn, diffyg hyder yw’r rhwystr cyntaf i’w oresgyn yn aml, a dyna pam mae ein dull yn fwriadol amrywiol gan ganolbwyntio ar y dysgwr. Yn ein hystafelloedd dosbarth a’n lleoliadau cymunedol ledled Cymru, mae tiwtoriaid yn defnyddio amrywiaeth cyfoethog o adnoddau dysgu i gefnogi gwahanol arddulliau ac anghenion dysgu. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda thestunau a llyfrau printiedig, annog dysgwyr i ysgrifennu â llaw, a defnyddio gwahanol gyfryngau i gadw dysgu’n ffres, yn ddeniadol ac yn ystyrlon.
Ar yr un pryd, deallwn fod sgiliau digidol a mynediad at adnoddau ar-lein yn chwarae rhan bwysig mewn bywyd a dysgu modern hefyd. Mae angen yr hyder ar oedolion i ddeall sut i lywio offer digidol, cael mynediad at wybodaeth, a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas a gwaith. Ond ni ddylai cydnabod gwerth dysgu digidol olygu dibynnu ar un dull. Mae gan wahanol gyfryngau, amgylcheddau a dulliau addysgu eu lle wrth greu profiadau dysgu cyfoethog ac effeithiol.
Ar fy ymweliadau ar draws ein darpariaeth, gwelaf hyn yn uniongyrchol, gyda dysgwyr yn ysgrifennu barddoniaeth, yn cymryd rhan mewn ysgrifennu creadigol, ac yn archwilio hanes a diwylliant trwy rannu testunau a thrafodaethau. Mae llawer yn defnyddio llyfrgelloedd, weithiau am y tro cyntaf, gan agor byd newydd o ddysgu a darganfod. Mewn cyrsiau celfyddydau ac ysgrifennu creadigol, mae dysgwyr yn dod â gwrthrychau sy’n sbarduno atgofion, gan eu defnyddio fel man cychwyn i siarad, myfyrio ac ysgrifennu, gan greu cysylltiadau pwerus rhwng y gorffennol a’r presennol, a rhwng profiad unigol a dealltwriaeth a rennir. Mewn dosbarthiadau lluniadu, mae rhywbeth mor syml â charreg fach o’r traeth yn dod yn ffocws ar gyfer arsylwi manwl, ei lyfnder, ei batrymau a’i liw yn cael eu harchwilio’n fanwl, gan feithrin sylw, creadigrwydd a hyder. Mewn mannau eraill, gall sgwrs am hen haearn Nain, a gynheswyd wrth dân yr aelwyd yn y 1950au, sbarduno diddordeb, trafodaeth a chwilfrydedd dyfnach ynghylch sut yr arferai bywyd fod.
Wrth i ni edrych ymlaen, nid dewis rhwng analog a digidol yw’r her, ond cael y cydbwysedd hwnnw’n iawn. I ddysgwyr sy’n oedolion, yn enwedig rhai sy’n meithrin sgiliau sylfaenol, mae’r pethau sylfaenol yn bwysig. Mae llythrennedd cryf yn sail i bopeth o gyflogadwyedd i feithrin hyder, lles a chyfranogiad ym mywyd cymunedol.
Weithiau, nid ychwanegu mwy yw’r cam mwyaf effeithiol ymlaen ond sicrhau bod y pethau sylfaenol, a chyfoeth y profiad dysgu, yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth