Llwyddiant Gwnïo!
15-Mai-2025Mae ein dysgwr gwnïo yn Wrecsam, Robert Williams-Day, yn rhannu ei brofiad a’i ddelweddau gwych o greadigaethau a wnaed ar ei gwrs!
Gofynnwyd i Robert;
Sut clywsoch am y cwrs gwnïo yn Wrecsam a beth a’ch denodd i ymuno?
Dywedodd Robert, “Gwelodd ffrind, Emily, un o’r posteri ar gyfer y sesiynau Crefft Nadolig ym Mhlas Madoc a’i anfon ataf. Roedd wedi bod yn gwneud llawer o fy ngwaith gwnïo drostof, felly mi dderbyniais ei hawgrym cynnil! Roedd gennyf ychydig o brofiad cyn dechrau’r cwrs. Rwy’n cymryd rhan mewn ail-greu hanesyddol, sy’n aml yn cynnwys gwneud eich cit eich hun, er fy mod i wedi cael cymorth pob amser. Y prosiect mwyaf y gweithiais arno cyn y cwrs oedd gwneud gwisg mynach o’r 12fed ganrif. Rhoddodd Emily gymorth i mi gyda’r dyluniad, y gosodiad a’r torri, ac fe wnes i wnïo trwy ddilyn ei chynllun hi. Wedi dweud hynny, tuedda i ddisgyn yn ddarnau ac mae angen ei atgyweirio’n gyson!
Beth ddysgoch chi yn ystod y cwrs?
“Gormod i’w restru! Ond y peth pwysicaf i’w ddysgu yw fy mod nawr yn deall sut i wneud pethau’n iawn a pham maent yn cael eu gwneud mewn ffordd benodol. Mae wedi rhoi’r hyder a’r wybodaeth i mi wneud a newid dillad i’m teulu hefyd. Mae’r cwrs wedi bod yn dda i’m hiechyd meddwl. Mae’n allfa greadigol wych ac yn rhywbeth rwyf wir yn edrych ymlaen ato. Byddaf yn bendant yn parhau i wnïo!”
Beth ydych yn bwriadu ei wneud nesaf?
“Mae gen i restr hir o bethau i’w gwneud o ran y cit ail-greu! Mae trowsus isaf canoloesol (braises) yn uchel ar y rhestr. Rwyf hefyd yn bwriadu gwneud hwdi wedi’i steilio i edrych fel gwisg mynach – rhywbeth ymarferol ond personol.”
Allwch chi ddweud mwy wrthym am yr ail-greu?
“Wrth gwrs! Dw i’n rhan o grŵp o’r enw Historia Normannis. Rydym yn cynnal penodau ledled y wlad, ac yn canolbwyntio ar gyflwyno’r 12fed ganrif mor gywir â phosibl. Rydym yn cynnal sioeau ledled y DU – rhai gyda channoedd o bobl mewn gwisgoedd llawn. Mae’n gymuned hyfryd, ac yn ffordd wych o ddod â hanes yn fyw.
Fy arbenigedd penodol yw Mynach Benedictaidd sy’n cadw gwenyn!”
A fyddech yn argymell y cwrs i eraill?
“Yn hollol. Mae wedi bod yn llawer o hwyl. Fe gychwynais gan obeithio dod yn fwy annibynnol wrth wneud fy nghit ail-greu, a nawr rwy’n gallu gwneud hyn. Rwyf wedi dysgu sgiliau gallaf wir eu defnyddio o ddydd i ddydd.
Hoffem ddiolch i Robert am gymryd yr amser i rannu ei brofiad gyda ni, a dymuno’n dda iddo wrth iddo barhau i wnïo! Darlleniad difyr, diolch Robert!
Am ragor o wybodaeth am y gwersi gwnïo yn Wrecsam, cysylltwch gyda Vikki Roberts ar Vikki.Roberts@AdultLearning.Wales







Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth