Lleisiau Dysgwyr yn Flaenllaw yn Hwb Dysgu Abertawe a Lleoliadau Cymunedol Lleol
14-Rhagfyr-2025
Cafodd ymrwymiad Addysg Oedolion Cymru (AOC) i flaenoriaethu dysgwyr yn ei drefniadau llywodraethu ei amlygu’n bwerus yn ddiweddar, pan wnaeth Kathryn Robson, Prif Weithredwr AOC, gynnal cyfres o Ymweliadau i Ddirnad Safbwyntiau Dysgwyr yn Hwb Dysgu Abertawe (Tŷ’r Dywysoges) ac mewn llu o leoliadau cymunedol, drwy gydol mis Tachwedd.
Roedd yr ymweliadau hyn yn adeiladu ar ymweliad llwyddiannus blaenorol ym mis Medi 2025, a oedd yn cynnwys Bernie Davies, Is-lywydd Addysg Oedolion Cymru. (Os gwnaethoch chi fethu’r stori, gallwch ddarllen am yr ymweliad blaenorol yma: [Dosbarthiadau ESOL yn Abertawe! | Dolen Addysg Oedolion Cymru).
Fe wnaeth Patience Bentu ymuno â Kathryn Robson yn ystod ei hymweliad ym mis Tachwedd. Mae Patience yn aelod cyfetholedig o Bwyllgor Adnoddau AOC, sy’n rhan o gorff llywodraethu’r sefydliad, . Rôl y llywodraethwyr yw cynnig arweiniad hanfodol a goruchwylio, gan sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ei genhadaeth, a bod lleisiau’r dysgwyr yn allweddol o ran cyfeiriad strategol a chydymffurfiaeth.
Fe wnaeth yr ymwelwyr dreulio amser yn arsylwi tri dosbarth ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Fe wnaethant hefyd weld dosbarth Crefft yn ymdrin â Sgiliau Dylunio Ffabrig a Gwnïo yn defnyddio Elfennau Cynaliadwy, ychwanegiad poblogaidd newydd at gwricwlwm Rhanbarth y De-orllewin a’r Canolbarth.
Wrth drafod ei phrofiad yn ystod yr ymweliad mis Medi, fe wnaeth Bernie Davies, Is-lywydd AOC, gynnig disgrifiad grymus o effaith drawsnewidiol y sesiynau:
“I mi, mae’r ymweliadau hyn yn brofiadau hynod o bersonol. Rwy’n gwybod sut brofiad yw cyrraedd gwlad newydd â chymwysterau, sgiliau ac uchelgeisiau – ac wynebu rhwystrau sy’n eich atal rhag cael eich gweld, eich clywed a’ch gwerthfawrogi serch hynny.”
“Yn Abertawe, gwelais oedolion yn chwalu’r rhwystrau hynny. Roedd yr hyder, y creadigrwydd a’r dewrder yn yr ystafelloedd dosbarth hynny yn rymus. Roedd y dysgwyr yn gwneud llawer iawn mwy na dysgu Saesneg – roeddent yn canfod eu llais, yn hawlio eu lle, ac yn ehangu eu cyfleoedd yn y dyfodol. Mae Addysg Oedolion Cymru yn helpu pobl i symud o bosibilrwydd i realiti – ac rwy’n gyfarwydd â’r daith honno oherwydd rwyf wedi byw’r profiad.”
Mae Ymweliadau i Ddirnad Safbwyntiau Dysgwyr yn hanfodol o ran datblygiad gweithredol AOC. Maent yn cynnig cyfle i ddysgwyr rannu eu straeon a’u profiadau, gan gynnig adlewyrchiad teg i ymwelwyr o bwysigrwydd y cynnig addysgol. Mae’r adborth gwerthfawr hwn o lygad y ffynnon yn helpu i lunio AOC fel sefydliad trwy ddefnyddio lleisiau’r dysgwyr i ddeall yr agweddau cadarnhaol a’r heriau, ac i nodi meysydd y dylid parhau i’w gwella.
Trefnwyd yr ymweliad gan Sam Al-Khanchi, Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm, ac fe wnaeth dwyn sylw at y cymhelliant y bydd yr ymweliadau arsylwi hyn yn eu cynnig.
“Heb os, Ymweld â Dysgwyr ac Arsylwi Addysgu a Dysgu yw rhai o fy hoff agweddau ar fy swydd. Byddaf bob amser yn mwynhau gweld ein tiwtoriaid gwych wrth eu gwaith a chael siarad â’n dysgwyr … mae’r ymweliadau hyn yn ein hatgoffa o hynny. Bydd gwên fawr ar fy wyneb wedi bob un o’r ymweliadau hyn a byddaf yn ymfalchïo yn ein gwaith yn AOC.”
Yn dilyn yr ymweliadau diweddar, fe wnaeth Kathryn Robson a Patience Bentu bwysleisio ansawdd yr addysgu a’r amgylchedd cefnogol a welwyd:
Ychwanegodd Kathryn Robson y Prif Weithredwr:
“Bydd yr Ymweliadau Dirnad Safbwyntiau Dysgwyr bob amser yn uchafbwynt go iawn i mi, ac roedd yn bleser cael cwmni ein His-lywydd, Bernie Davies, a Patience Bentu, aelod cyfetholedig o’r Cyngor, yn ystod fy ymweliadau. Gyda’n gilydd, cawsom gyfle i weld â’n llygaid ein hunain pa mor effeithiol yw addysgu dychmygus sydd wedi’i gynllunio’n dda a’r hyder y bydd dysgwyr yn ei feithrin pan fyddant yn credu eu bod yn cael eu cymorth diffuant.”
“Yr egni, y creadigrwydd a’r ymdeimlad o berthyn ym mhob dosbarth oedd yn amlwg yn anad dim yn Abertawe. Roedd tiwtoriaid wedi creu mannau diogel a chynhwysol ble’r oedd dysgwyr yn credu eu bod yn gallu mentro, rhannu syniadau a dathlu cynnydd gyda’i gilydd. Mae ymweliadau fel y rhain yn ein hatgoffa’n rymus am ddiben ein gwaith — byddant yn bywiogi ein pwrpas ac yn dangos y gwahaniaeth er gwell y bydd addysg oedolion yn ei sicrhau i unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.”
Ychwanegodd Patience Bentu:
“Mae’r ymweliadau hyn yn dwyn sylw at gryfder a phwrpas Addysg Oedolion Cymru. Yn Abertawe, cawsom weld addysgu o ansawdd uchel, cynllunio meddylgar a dysgwyr a oedd yn credu eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynorthwyo a’u hannog i wthio eu hunain. Fe wnaeth hynny ein hatgoffa nad yw dysgu gydol oes yn gysyniad haniaethol — mae’n real, mae’n bodoli, ac mae’n newid bywydau mewn cymunedau ar hyn o bryd.”
Fe wnaeth Sadiah, tiwtor y ddarpariaeth ESOL, rannu ei phrofiad calonogol o’r diwrnod a nodi ei bod yn gwerthfawrogi gwerth gweithgarwch ymgysylltu Kathryn ac Aelodau’r Cyngor:
“Mae Kathryn yn unigolyn mor ddiymhongar, caredig, a huawdl.. Mae ganddi agwedd wych at ddysgwyr, bydd hi’n gwrando’n ddiffuant arnynt, ac yn llwyddo i wneud iddynt deimlo’n gyfforddus. Bydd ei chwestiynau meddylgar yn helpu dysgwyr i feddwl yn ddwys a deall beth yn union y gofynnir iddynt ei wneud.”
Mae ymweliadau Kathryn Robson ac aelodau Cyngor Addysg Oedolion Cymru yn enghraifft allweddol o’r ymweliadau niferus i ddirnad safbwyntiau dysgwyr sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, gan sicrhau bod y dysgwr yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol wrth lunio dyfodol dysgu gydol oes yng Nghymru.






Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth