Hwb Asesu REACH yn Abertawe!
30-Ebrill-2024
Mae wedi bod yn ddiwrnod hynod gynhyrchiol ac addysgiadol yn Hwb Asesu REACH yn Abertawe! Mae rheolwyr ar draws ‘Partneriaeth Dysgu Oedolion a Chymunedol Abertawe’ (ALPS) wedi dod at ei gilydd am daith o amgylch y cyfleuster, i gwrdd gyda’r staff asesu a phobl sy’n mynychu eu Hasesiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill). Mae’r Hwb wedi’i leoli ar Ffordd y Brenin yn Abertawe – lleoliad canolog a chyfleus i bobl gael eu hasesu yn y pedwar sgil iaith, sef darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Ar ôl eu hasesu, gall dysgwyr ddewis a ydynt am fynychu dosbarthiadau cymunedol gydag Addysg Oedolion Cymru neu fynychu dosbarthiadau mewn lleoliad Coleg AB, yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe. Mae’r staff yn Addysg Oedolion Cymru a Choleg Gŵyr, Abertawe, yn cydweithio’n agos, fel aelodau o Bartneriaeth ALPS, i sicrhau bod cwricwlwm cytbwys, amrywiol a chyfoethog ar gael i ddysgwyr ar draws Dinas a Sir Abertawe.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth