Helo o’r Maes: lle daw dysgu yn fyw
5-Awst-2026
Helo o Eisteddfod y Garreg Las, lle mae’r cyffro, yr egni a’r balchder yn amlwg.
Mae’r Maes yn ferw o gerddoriaeth, perfformiadau, sgyrsiau a lliwiau. Ym mhobman, gallwch weld pobl yn rhannu eu doniau, yn dathlu’r Gymraeg ac yn archwilio’r hanes a’r dreftadaeth sy’n ein cysylltu ni. Gan nodi 850 mlynedd ers cynnal yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd yn Aberteifi, mae’r ŵyl yn teimlo ei bod wedi’i gwreiddio mewn hanes ac yn edrych ymlaen yn hyderus.
Yr hyn sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arnaf i yw’r dysgu sy’n digwydd ym mhob cyfeiriad.
Rydym wedi gweld y perfformiadau, yr arddangosfeydd a’r cystadlaethau gorffenedig, ond mae pob un yn cyfleu taith llawer hirach. Caiff sgiliau eu mireinio drwy ymarfer, caiff hyder ei fagu trwy gyfranogi a rhennir gwybodaeth rhwng pobl o bob oedran a chefndir. Mae gwirfoddolwyr, trefnwyr, technegwyr, tiwtoriaid, teuluoedd a chymunedau hefyd yn cyfrannu’r arbenigeddau a’r ymrwymiad sy’n sicrhau bod yr eisteddfod yn bosibl.
Nid yw dysgu yn digwydd ar wahân i fywyd yma. Mae’n edefyn sy’n plethu drwy ddiwylliant, creadigrwydd a phrofiad cyffredin y Maes.
Mae’r edefyn hwnnw hefyd wedi cysylltu’r digwyddiadau rydw i wedi ymweld â hwy. Yn ei thrafodaeth ynghylch gwaddol Safonau’r Gymraeg, fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg ystyried y cynnydd sydd wedi’i wneud dros y degawd diwethaf. Fe wnaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol ragweld cyfleoedd a heriau deallusrwydd artiffisial mewn addysg Gymraeg a dwyieithog. Fore heddiw, fe wnaeth y drafodaeth ynghylch Cymraeg Craidd dan ofal Dysgu archwilio sut rydym yn parhau i gryfhau’r Gymraeg ar draws y maes addysg.
Mae rhai o’r profiadau mwyaf gwerthfawr wedi digwydd rhwng digwyddiadau. Mae ymweld â stondinau a siarad â phobl o wahanol sefydliadau wedi datgelu ystod eithriadol o syniadau a gweithgarwch. Mae’r brwdfrydedd yn heintus, a cheir awydd didwyll i greu cysylltiadau ac archwilio beth allai fod yn bosibl gyda’n gilydd.
Mae rhagor i ddod, gan gynnwys trafodaethau dan arweiniad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ynghylch cymunedau mentrus, a digwyddiadau diweddarach ynghylch siaradwyr newydd y Gymraeg a gweithleoedd dwyieithog.
Rwyf i yma yn chwifio baner dysgu oedolion yn y gymuned ac yn gwrando’n ofalus ar y syniadau a’r uchelgeisiau sy’n cael eu rhannu. Rwy’n ymrwymo i sicrhau dilyniant i’r cysylltiadau hyn, datblygu partneriaethau newydd a chanfod ffyrdd ymarferol o greu rhagor o gyfleoedd i ddysgu, gwella ein cynnig a chryfhau’r ddarpariaeth ledled Cymru.
Mae dysgu yn bodoli yn y doniau ar y llwyfan, y creadigrwydd yn yr arddangosfeydd a’r perfformiadau, y wybodaeth a geir mewn cymunedau a hyder rhywun sy’n rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Dyna pam mae’r Maes yn lle mor arbennig. Mae’n dathlu’r hyn y mae Cymru wedi’i etifeddu ac yn amlygu sut mae pobl yn dysgu, yn creu ac yn cyfrannu at beth fydd Cymru nesaf. Rwy’n gobeithio y caf gyfle i’ch gweld yno!
Kathryn Robson, Prif Weithredwr
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth