Gwyl Y Pasg | Addysg Oedolion Cymru

Gwyl Y Pasg

11-Ebrill-2025
Rhannu

Wrth i  wyliau’r Pasg nesáu, hoffem rannu rhywfaint o ddiweddariadau allweddol gan Addysg Oedolion Cymru, gan gynnwys uchafbwyntiau ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) a’n Cynhadledd Flynyddol dau ddigwyddiad a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2025 yn Llandudno. Roedd y digwyddiadau hyn yn llwyddiant ysgubol, ac fe wnaethant gynnig cyfle i ddod â dysgwyr, addysgwyr, llunwyr polisi, a phartneriaid yn y cymunedau ynghyd i drafod rôl drawsnewidiol addysg o ran meithrin heddwch.

Roedd y Gynhadledd Flynyddol yn cynnwys  anerchiadau ysbrydoledig gan y prif siaradwyr, trafodaethau panel difyr, a straeon pwerus gan ddysgwyr a phartneriaid o’r cymunedau. Roedd themâu pwysig y diwrnod yn cynnwys dysgu gydol oes, cynhwysiant, a chydweithio rhyngwladol, sydd oll yn elfennau craidd o’n cenhadaeth. Braint hefyd oedd cael  dathlu llwyddiannau eithriadol ein dysgwyr yn ystod y Seremoni i Wobrwyo Dysgwyr, gan amlygu sut gall addysg oedolion weddnewid bywydau pobl.

Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, fe wnaethom benodi Bernie Davies yn Is-lywydd yn ffurfiol, a bydd hi’n cyfrannu ei phrofiad eang wrth ymgymryd â’r rôl bwysig hon. Fe wnaethom hefyd gyflwyno diweddariadau allweddol i’n cyfansoddiad, a byddant yn ein helpu i’n llywio wrth i ni barhau i ddatblygu a thyfu fel sefydliad.

Mae’r dirnadaethau yn deillio o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r gynhadledd bellach yn llywio ein Cynllun Strategol ar gyfer 2025–2028 (mae ymgynghoriad ynghylch y cynllun ar y gweill ar hyn o bryd). Rydym yn awyddus i sicrhau bod y cynllun hwn yn gydnaws â’r cwricwlwm rydym yn ei gynnig a sicrhau ei fod yn cynorthwyo i gynnig y cyfleoedd i rwydweithio y mae ar ein dysgwyr eu hangen. Bydd y cynllun hwn yn cynnig map ffordd eglur at y dyfodol, gan ein helpu i ymateb i heriau’r sector a pharatoi at y cyfleoedd a ddaw. Rydym yn gwahodd i gynnig adborth ynghylch y cynllun tan 30 Ebrill 2025, ac rydym yn gwerthfawrogi’r ymatebion cadarnhaol ac adeiladol rydym wedi’u cael hyd yn hyn.

Fel rhan o’r cyfeiriad strategol hwn, rydym yn datblygu ein gwaith ym meysydd arloesi digidol, deallusrwydd artiffisial, tegwch, amrywiaeth, a chynaliadwyedd, a bydd pob un ohonynt yn llywio’r hyn yr ydym yn ei gynnig a’n dull o gynnig hynny. Rydym yn dal yn ymrwymo i gynnal llesiant staff a meithrin diwylliant sy’n rhoi pwyslais ar gynaliadwyedd hirdymor ledled y sefydliad.

Mae effaith ein gwaith yn dal i ehangu, ac mae dros 7,500 o ddysgwyr yn cyfranogi eleni. Mae’r adborth gan ddysgwyr a staff fel ei gilydd yn adlewyrchu llwyddiant ein dull cynhwysol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr. Fe wnaeth ein harolygiad diweddar gan Estyn atgyfnerthu canlyniadau cadarnhaol ein gwaith ymhellach, ac rydym yn edrych ymlaen at yr adroddiad terfynol, a ddylai gael ei gyhoeddi ym Mehefin.

Rydym hefyd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, ac mae mentrau ar y gweill i leihau ein hôl troed carbon a hyrwyddo arferion sy’n defnyddio ynni yn effeithlon ledled ein hystâd.

Yn olaf, hoffem ddiolch yn ddiffuant i Dr John Graystone; daeth ei gyfnod fel Cadeirydd y Cyngor i ben ar  ddiwedd mis Mawrth. Mae arweinyddiaeth ac ymrwymiad John i faes addysg gydol oes wedi dylanwadu’n barhaol ar ein sefydliad, ac rydym yn hynod ddiolchgar am ei wasanaeth a’i arweiniad.

Diolch am barhau i’n cefnogi ni. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi wrth i dymor yr haf gychwyn a pharhau â’n cenhadaeth i gynorthwyo dysgwyr ledled Cymru.

Cofion cynnes,

Steve Nicholls,Cadeirydd y Cyngor

Kathryn Robson, Prif Weithredwr

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth