Gwrth-hiliaeth: Taith Addysg Oedolion Cymru i Ragoriaeth Llywodraethu | Addysg Oedolion Cymru

Gwrth-hiliaeth: Taith Addysg Oedolion Cymru i Ragoriaeth Llywodraethu

30-Gorffennaf-2024
Rhannu

Yn Addysg Oedolion Cymru (AOC), mae ein hymrwymiad i wrth-hiliaeth wedi bod yn daith drawsnewidiol, wedi’i hysbrydoli’n ddwfn gan y Black Leadership Group (BLG). Rydym yn gyffrous i rannu ein stori, gan obeithio ysbrydoli eraill i gychwyn ar eu llwybrau eu hunain tuag at gynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol.

Ynglŷn ag Addysg Oedolion Cymru

Addysg Oedolion Cymru yw’r darparwr cenedlaethol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru. Gyda 18,000 o gofrestriadau bob blwyddyn, cynigir ystod eang o gyfleoedd addysgol, o lefel cyn mynediad i gymwysterau Lefel 4. Ein cenhadaeth? Darparu addysg hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion ac yn hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.

Ein Strwythur Llywodraethu

Yn AOC, mae ein strwythur llywodraethu yn dyst i’n hymrwymiad i wrth-hiliaeth. Ffurfiwyd Corff Llywodraethu amrywiol gydag arbenigedd mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), a gwrth-hiliaeth. Un o’n sêr disglair yw Dr Salamatu Fada, ein His-gadeirydd, sydd hefyd yn dod â’i phrofiad amhrisiadwy o Gymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Mae ei hymroddiad i eiriol dros gymunedau Affricanaidd a hyrwyddo mentrau gwrth-hiliaeth wedi bod yn hollbwysig.

Mae gwrth-hiliaeth yn brif eitem agenda yng nghyfarfodydd ein Corff Llywodraethol, gan sicrhau bod ein gwerthoedd craidd o gynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol bob amser yn flaenllaw ac yn ganolog.

Datblygu Ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth

Cymerodd ein taith gwrth-hiliaeth naid sylweddol yn 2021, drwy i ni ymateb i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru. Drwy ymgysylltu gyda’r BLG a dysgu o brofiadau bywyd, gwnaethom ddatblygu ein cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth ddeinamig ein hunain, wedi’i gyfoethogi gan fewnbwn staff, dysgwyr a rhanddeiliaid.

Yn 2023, cynhaliwyd Digwyddiad Cynllunio Strategol a amlygodd ein cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth, gan alinio ein nodau strategol gyda’n hymrwymiad diysgog i wrth-hiliaeth.

Cynnwys Ein Corff Llywodraethol mewn Gwrth-hiliaeth

Er mwyn i’n hymdrechion gwrth-hiliaeth fod yn effeithiol a pharhaol, roedd angen i’n llywodraethwyr ymgysylltu’n llawn ac yn wybodus. Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) gennym. Un o’r nodweddion mwyaf amlwg oedd gweithdy gan BLG, a roddodd y wybodaeth i’n llywodraethwyr i fynd i’r afael gyda hiliaeth systemig, rhagfarnau anymwybodol, a hyrwyddo cynhwysiant.

Gwnaethom hefyd lansio’r hyfforddiant ‘ Sefyll yn weithredol i fyny i hiliaeth’ gyda’r BLG, gan rymuso ein staff a’n llywodraethwyr i herio hiliaeth mewn modd hyderus. Mae ein Prif Weithredwr, sydd hefyd yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Race Council Cymru, yn dod â mewnwelediadau hanfodol i heriau ar lawr gwlad.

Mae sesiynau trafod rheolaidd yn creu llwyfan i ddysgwyr, staff, a llywodraethwyr rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae’r sgyrsiau gonest hyn yn allweddol i normaleiddio trafodaethau am hiliaeth a dyfnhau ein cyd-ddealltwriaeth.

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth a Llywodraethu Da

Mae ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth wedi’i integreiddio’n ddi-dor gyda saith elfen llywodraethu da. Mae’n dangos gweledigaeth ac arweinyddiaeth glir drwy osod nodau uchelgeisiol sy’n cyd-fynd gyda Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol gan Lywodraeth Cymru. Mae ein moeseg ac uniondeb sefydliadol wedi’u hangori mewn hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth. Gwerthuswn ein perfformiad yn barhaus drwy arolygon ac adborth, gan sicrhau atebolrwydd a thryloywder. Mae ymgysylltu a chydweithio yn greiddiol i ni, gan gynnwys staff, dysgwyr a phartneriaid wrth ddatblygu a gweithredu’r cynllun. Mae ein hymrwymiad i wrth-hiliaeth yn broses gynaliadwy, barhaus, wedi’i ymgorffori yn ein gweithrediadau dyddiol ac yn gwella’n barhaus trwy adborth ac arferion sy’n esblygu.

Blaenoriaethau Allweddol a Mesurau Llwyddiant

Mae ein Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth yn canolbwyntio ar sawl maes allweddol: codi ymwybyddiaeth i sicrhau bod pawb yn deall gwrth-hiliaeth, darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr, adolygu polisïau’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn wrth-hiliol, gan ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliol yn ein cwricwlwm, a chryfhau cysylltiadau gyda chymunedau amrywiol. Caiff llwyddiant ei fesur drwy adborth, cyfranogiad hyfforddiant, newidiadau polisi, a metrig cynhwysiant.

Rôl y Llywodraethwyr

Mae ein llywodraethwyr yn hollbwysig ar y daith hon. Maent yn darparu cyfeiriad strategol, yn monitro cynnydd, yn sicrhau atebolrwydd, ac yn hyrwyddo diwylliant o ymgysylltu a gwelliant parhaus.

Effeithiau a Gyflawnwyd a Meysydd i’w Gwella

Rydym yn falch o’r camau rydym wedi’u cymryd: cynyddu ymwybyddiaeth, adborth cadarnhaol, a pholisïau mwy cynhwysol. Gwelir y cynnydd yn amlwg drwy arolygon, gwerthusiadau hyfforddi, a straeon personol. Fodd bynnag, cydnabyddir yr angen am DPP parhaus, gwelliannau amrywiaeth pellach, ymgorffori arferion yn llawn, ac ymgysylltu ehangach gyda rhanddeiliaid.

Casgliad

Mae ein taith tuag at ddod yn sefydliad gwrth-hiliol yn un barhaus ac egnïol. Mae ymrwymiad ein Corff Llywodraethol a’r ymateb cadarnhaol gan staff a dysgwyr wedi bod yn allweddol wrth ysgogi’r newid hwn. Rydym yn falch o’n cynnydd, ac yn parhau i fod yn ymroddedig i hyrwyddo gwrth-hiliaeth, cynhwysiant a pherthyn bob cam o’r ffordd. Dewch gyda ni ar y daith drawsnewidiol hon!

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth