Gwreichiono greadigrwydd yng Nghanolfan Gymunedol Noddfa!
15-Ebrill-2025Roedd bwrlwm o greadigrwydd yng Nghanolfan Gymunedol Noddfa yng Nglyncorrwg yr wythnos hon wrth i ddysgwyr Castell-nedd Port Talbot gymryd rhan mewn gweithdy cyffrous sef Cyflwyniad i Gelf Pren a Phyrograffeg. Dan arweiniad Rhys ein tiwtor dawnus a phrofiadol, rhoddodd y sesiwn gyfle i bawb roi cynnig ar byrograffeg (y grefft o addurno pren gyda phennau wedi’u gwresogi).
Gan ddefnyddio amrywiaeth o dempledi a llawer o ddychymyg, creodd y dysgwyr ddyluniadau gwirioneddol syfrdanol, o batrymau cymhleth i gofroddion personol. Roedd yr awyrgylch yn gynnes a chroesawgar, ac yn llawn chwerthin – cymysgedd perffaith o ddysgu a hwyl.
Cymerwch gip ar rai o’r creadigaethau anhygoel a wnaed ar y diwrnod, rydym yn siŵr y cewch eich ysbrydoli!
Awydd rhoi cynnig arni?
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch gyda Julie.IsaacEvans@adultlearning.wales









Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth