Gwobrau Tiwtor Ysbrydoli! Llongyfarchiadau i Clare Jones, ein Tiwtor ESOL! | Addysg Oedolion Cymru

Gwobrau Tiwtor Ysbrydoli! Llongyfarchiadau i Clare Jones, ein Tiwtor ESOL!

13-Mawrth-2024
Rhannu

Llongyfarchiadau enfawr i’n tiwtor o Abertawe, Clare Jones, a enillodd wobr Ysbrydoli! Gwobrau Tiwtoriaid neithiwr yn y Senedd am ei llwyddiant o fewn y lleoliad Addysg Gymunedol.

Mae Clare wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu a chyflwyno SSIE ar gyfer Dysgu Teuluol ers sawl blwyddyn yn Abertawe, ar gyfer Addysg Oedolion Cymru, ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno dau ddosbarth SSIE ar gyfer Dysgu fel Teulu; un mewn partneriaeth â’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) a’r llall mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd San Joseff.

Gan bawb yn AOC, da iawn Clare ac rydym mor falch o’ch cyflawniadau!

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth