Gwobrau Dewi Sant 2026 | Addysg Oedolion Cymru

Gwobrau Dewi Sant 2026

3-Chwefror-2026
Rhannu

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod dysgwr Addysg Oedolion Cymru (AOC), Robert Scott, a’r Grwpiau Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays wedi’u henwi fel rhai o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Dewi Sant eleni.

Robert Scott: Rownd Derfynol Gwobr Gwasanaethau’r Cyhoedd

Ar ôl ymuno gyda’r cynllun peilot Hyfforddiant Oedolion Ifanc (mewn partneriaeth â Chymdeithas Swyddogion Carchar, a Charchar y Berwyn), cwblhaodd Robert ei gymhwyster Hyfforddi’r Hyfforddwr Lefel 2 gydag AOC. Mae bellach yn defnyddio ei brofiadau i ysbrydoli a hwyluso sesiynau hyfforddi dan arweiniad i gyfoedion ar gyfer cyd swyddogion, gan feithrin diwylliant o gydweithio a datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y carchar.

Grŵp Dysgu Rhieni: Rownd Derfynol Gwobr Arwr Cymunedol

Dan arweiniad Tiwtor AOC sef Christina Roy, mae’r Grŵp Dysgu Rhieni yn Ysgol Uwchradd Cathays yn enghraifft nodedig o rymuso cymunedau ar lawr gwlad yng Nghaerdydd. Ers 2014, mae’r fenter fywiog hon wedi cefnogi rhieni, yn bennaf menywod o gefndiroedd amrywiol, trwy ddarparu cyrsiau achrededig, clwb brecwast croesawgar, a rhaglen rhannu bwyd hanfodol.

Cynhelir seremoni Gwobrau Dewi Sant yn y Senedd ddiwedd mis Chwefror, lle cyhoeddi’r yr enillwyr yn swyddogol.

Gan bawb yma yn AOC, llongyfarchiadau mawr i Robert, y Grŵp Dysgu Rhieni, a’r holl ymgeiswyr anhygoel yn y rownd derfynol am eu cyflawniadau rhyfeddol.

Rydym mor falch o’r effaith rydych yn ei gael!

Dysgwch fwy am yr ymgeiswyr terfynol yma

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth