Gwobrau Addysg Oedolion Cyswllt Dysgu
6-Gorffennaf-2017Ddydd Mawrth 4 Gorffennaf, cynhaliwyd Gwobrau Addysg Oedolion Cyswllt Dysgu yn Hen Golwyn, a gyflwynwyd yn garedig gan Gerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE.
Cyswllt Dysgu yw’r Bartneriaeth Addysg Oedolion yn y Gymuned ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, ac rydym ni’n falch o fod yn brif
ddarparwr yn y bartneriaeth hon. Roedd y digwyddiad hwn wir yn canolbwyntio ar ddysgwyr, gyda dwy o’n dysgwyr Ffotograffiaeth Ddigidol, sef Jenni Peters a Christine Winner, yn dal llawer o brif ddigwyddiadau’r noson.
Cafodd aelodau tîm rhanbarth y Gogledd y pleser o weld dysgwyr a thiwtoriaid yn derbyn cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau yn y
dathliad hwn o addysg oedolion. Cyflwynwyd gwobrau i Steffani Butler (Dysgwr Ymuno â Byd Gwaith ‘Into Work’), Louise Oates
(Dysgwr Dilyniant) a’r canlynol:
Paul Ditchburn (1) – Dysgwr Sgiliau Hanfodol ar gyfer Bywyd
Pauline Lacey (2) – Tiwtor Cymuned
Andy Jones (3) – Paratoi am Waith a Thiwtor Gwirfoddol
Roeddem yn falch iawn o gael cwmni Scott Jenkinson fel siaradwr gwadd y digwyddiad. Rhoddodd Scott araith arall wirioneddol ysbrydoledig a chalonogol yngl?�n â grym dysgu i newid bywydau, a darodd ddeuddeg gyda phawb ac a oedd yn treiddio trwy’r digwyddiad hwn a’r digwyddiad yn Wrecsam. Diolch yn fawr i aelodau tîm rhanbarth y Gogledd a weithiodd yn galed gyda phartneriaid y Partneriaethau Addysg Oedolion yn y Gymuned i gydlynu’r digwyddiadau dathliadol hyn – edrychwn ymlaen at lawer mwy!
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth