Gwobr Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol – Teilyngwr: Daoud Mohumad! | Addysg Oedolion Cymru

Gwobr Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol – Teilyngwr: Daoud Mohumad!

11-Medi-2024
Rhannu

Wythnos Addysg Oedolion 2024

Gwobr Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol – Teilyngwr

Daoud Mohumad

Mae Addysg Oedolion Cymru yn falch o gael cyhoeddi bod Daoud Mohumad, dysgwr sy’n dysgu yng Nghaerdydd, wedi’i ddewis yn un o deilyngwyr y Wobr Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol yng Ngwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! eleni.

Roedd Daoud yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac yn filwr yn Swdan, a gweithiai gyda ffoaduriaid yn addysgu Saesneg a chynnal gweithgareddau, a rhoddai wersi cerddoriaeth i eraill (yn enwedig gwersi canu’r gitâr) a chwaraei bêl-fasged Yn anffodus, camodd ar ddyfais ffrwydrol a chafodd ei anafu, ac achosodd hynny anaf sylweddol i’w ymennydd ac anabledd yn ymwneud â’i ysgwydd chwith. Yn union fel yn achos unrhyw anaf ar yr ymennydd, mae Daoud wedi gorfod goresgyn llawer o anawsterau, ond nid yw ei frwdfrydedd ynghylch dysgu ac addysgu erioed wedi pylu, ac yn sgil hynny, aeth ati i ddatblygu sgiliau newydd yn y byd digidol, maes na allai gyfranogi ynddo yn flaenorol oherwydd y sefyllfa yn Sudan. 

Dywed Daoud wrthym ni:  

“Mae Sudan yn wlad sy’n profi argyfwng ers 50 mlynedd. Rwy’n aros yng Nghaerdydd ers 10 mlynedd, ond bu’n rhaid i mi ddychwelyd i Swdan oherwydd rhesymau teuluol. Mae’r rhyfel presennol yn Swdan wedi fy ngorfodi i ddychwelyd i Gaerdydd ac rwy’n dymuno aros yma i ddatblygu fy sgiliau a helpu ffoaduriaid yn y ddinas. Rwy’n dymuno ymgartrefu yng Nghymru. Cyn y rhyfel (yn Swdan), roeddwn i’n ceisio helpu pobl i siarad Saesneg a datblygu eu sgiliau Saesneg, a nawr, rwy’n dymuno helpu pobl i ddatblygu eu gallu i ddysgu.”

Ymunodd Daoud ag un o gyrsiau Llythrennedd Digidol Addysg Oedolion Cymru yng Nghaerdydd, dan ofal Nicole Kinnard, y tiwtor. Mae cyflymder addysgu’r cwrs yn addas i Daoud a’r dysgwyr eraill. Mae Daoud wedi mwynhau’r agweddau cymdeithasol ar y cwrs, ac mae wedi dod i adnabod ffrindiau newydd a chynorthwyo dysgwyr eraill sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd Nicole:

“Mae’n bleser cael addysg Daoud. Mae’n ddyn gwirioneddol garedig ac mae ganddo lais gwych. Bydd yn aml yn canu yn yr ystafell dosbarth a bydd gwrando arno yn lleddfu’r holl fyfyrwyr. Mae’n graff a gall nodi amgylchedd penodol a bydd yn sgwrsio ag eraill ac yn ymdrin mewn modd rhyfeddol â’i gyd-ddysgwyr a bydd hynny’n sicrhau bod pawb yn teimlo’n gartrefol. Mae Daoud yn wych am ysbrydoli eraill i wneud eu gorau glas ac mae wedi arwain trwy osod esiampl a gosod nodau uchelgeisiol iddo’i hun. Yn y gorffennol, mae Daoud wedi dioddef gwahaniaethu a cham-drin hiliol, ond mae wedi goresgyn hynny trwy gyfranogi mewn cyfleoedd newydd, yn enwedig cyfleoedd i barhau i ddysgu, ac mae wedi cael cyfle i ddatblygu ei sgiliau TGCh. Fel tiwtor Daoud, gallaf ddweud ei fod yn ysbrydoli pawb ohonom ni.”

Mae cwrs sgiliau Llythrennedd Digidol Addysg Oedolion Cymru wedi cynnig cyfle i Daoud ddatblygu ei sgiliau a gwella ei siawns o gael gwaith yn y sector digidol yn y dyfodol.

Ychwanegodd Daoud:

“Rwy’n dymuno gweithio ym maes Cyfrifiadureg. Mae’r cyfrifiadur fel cefnfor, mae’n ddiddiwedd ac yn llawn cyfleoedd, a bydd yn rhaid i chi ddysgu rhagor bob amser. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o’r profiad dysgu, byddwch yn cael cyfle i adnabod pobl hyfryd a ffrindiau newydd. Mae’n gyfle i bobl sydd heb gwrdd yn flaenorol ddod ynghyd. Rwy’n gwneud mwy na dim ond dysgu am gynnwys y cwrs; rwy’n mwynhau dysgu fel rhan o’r profiad cyfan. Mae’n cynnig cyfle i chi wella eich bywyd, a dyna hanfod dysgu – mae’n fendith.”

Dymuna bawb yn Addysg Oedolion Cymru longyfarch Daoud ar gael ei ddewis yn un o deilyngwyr Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2024.  Bob hwyl i chi wrth barhau i astudio ac â’ch cyfleoedd at y dyfodol yma yng Nghymru.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth