Gweithdai Ymgysylltu Dinesig Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru ar draws De-orllewin Cymru | Addysg Oedolion Cymru

Gweithdai Ymgysylltu Dinesig Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru ar draws De-orllewin Cymru

22-Ionawr-2025
Rhannu

Mae ein Rheolwr Marchnata a Chydlynwyr Datblygu Cwricwlwm o bob rhan o Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi mynychu nifer o ‘Weithdai Partneriaeth Ymgysylltu Ddinesig Rhanbarthol’ ar draws De-orllewin Cymru yn ddiweddar.

Gwahoddwyd sefydliadau addysgol ar draws y sectorau Dysgu Oedolion yn y Gymuned, AB ac AU o fewn y Rhanbarth, i fynychu’r gweithdai, er mwyn archwilio sut gall y tri sector weithio’n agosach gyda’i gilydd, a diwallu anghenion cymunedau lleol yn well, i sicrhau y darperir ymgysylltiad dinesig cadarnhaol, a helpu i greu diwylliant o bartneriaeth.

Yn ystod y gweithdai, archwiliodd cydweithwyr strategaethau amrywiol ar gyfer adeiladu partneriaeth effeithiol, rhannu syniadau ar sut y gall y sector weithio’n agosach gyda’r gymuned, a chymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol a gynlluniwyd i wella effaith gyfunol.

O ganlyniad i gyfraniad rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru i’r digwyddiadau, byddwn yn ymuno gydag arweinwyr y deg sefydliad addysg ôl-16, ac ochr yn ochr â’r sefydliadau hynny, bydd gennym gyfeiriad i gynllunio ei flaenoriaethau strategol, gyda’r bwriad o dynnu cyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau sydd o fudd i’n cymunedau dros y tair blynedd nesaf.

Mae ein staff wedi bod yn falch iawn i fynychu’r digwyddiadau hyn, ac maent yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ymhellach ochr yn ochr â’r sefydliadau addysg AB ac AU lleol, ar draws De-orllewin Cymru!

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth