Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn Tystio’n Uniongyrchol i Effaith Hyfforddiant i Arweinwyr ym maes Gwaith Ieuenctid
11-Mawrth-2026
Roedd Addysg Oedolion Cymru (AOC) yn falch o gael cyfle i groesawu Vikki Howells AS, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch Cymru, i Ganolfan Ieuenctid Eastmoors yn Sblott ddydd Iau 26 Chwefror.
Fe wnaeth y Gweinidog gwrdd â saith dysgwr sy’n cyfranogi ar hyn o bryd yn y cwrs Arwain a Rheoli mewn Gwaith Ieuenctid ar Lefel 4. Dan arweiniad Emma Chivers y tiwtor, fe wnaeth y sesiwn gynnig cyfle i’r Gweinidog wrando ar safbwyntiau gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn lleoliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol a rhai a gynhelir. Siaradodd y Gweinidog yn uniongyrchol hefyd â Kathryn Robson, Prif Swyddog Gweithredol AOC a Rachel Burton, Rheolwr Gwaith Ieuenctid AOC.
Roedd yr ymweliad yn gyfle hanfodol i ddysgwyr drafod y cyfleoedd a’r heriau presennol sy’n wynebu’r sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Y dysgwyr hyn, sydd oll yn Weithwyr Ieuenctid cymwysedig (Lefel 6) neu’n Weithwyr Cymorth Ieuenctid (Lefel 3), yw cenhedlaeth nesaf arweinwyr y sector. Mae llawer wedi bwrw ymlaen trwy lwybr Gwaith Ieuenctid AOC, ar ôl cwblhau’r cwrs Arwain a Rheoli ar Lefel 3 yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25.
Yn unol â’r Ymgynghoriad ynghylch dyfodol Addysg Drydyddol sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, cafodd y dysgwyr gyfle i gynnig adborth o lygad y ffynon i’r Gweinidog ynghylch rhai o’r rhwystrau y mae dysgwyr yn eu hwynebu wrth geisio cael cyfleoedd addysg. Cawsant gyfle hefyd i esbonio sut mae mynychu’r cwrs hwn wedi bod yn adnodd hanfodol i’w paratoi i ddod yn ddarpar arweinwyr a rheolwyr ym maes Gwaith Ieuenctid.
Dywedodd Kathryn Robson:
“Roedd yn wych cael y Gweinidog gyda ni yn Eastmoors, ac rydym yn gwerthfawrogi’n ddiffuant yr amser a neilltuodd i eistedd gyda dysgwyr a chael gwybod ganddynt am sefyllfa gwaith ieuenctid yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r cwrs Lefel 4 hwn yn helpu pobl i gamu ymlaen i fod yn arweinwyr mewn ffordd ymarferol trwy reoli timau, cynorthwyo staff a gwirfoddolwyr, a gwneud penderfyniadau yn hyderus mewn lleoliadau gwaith ieuenctid prysur. Roedd y sgwrs yn onest ac yn cynnig llawer o wybodaeth, ac roedd yn atgof amserol ynghylch pam mae cynnydd ym maes gwaith ieuenctid mor bwysig.”
Ychwanegodd Rachel Burton:
“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o’r ymweliad hwn gan Vikki Howells, y Gweinidog, â’r cwrs Arwain a Rheoli hwn. Ar ôl gweithio trwy vartneriaeth â Safonau Addysg a Hyfforddiant Cymru i greu ac ariannu’r cwrs hwn fel llwybr cynnydd y mae galw mawr amdano ym maes Arwain a Rheoli Gwaith Ieuenctid, mae’n hyfryd gweld a chlywed am y cynnydd y mae’r dysgwyr hyn yn ei wneud a’i ddylanwad ar eu gwaith. Bydd dysgwyr da yn dylanwadu’n sylweddol iawn ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn i staff a gwirfoddolwyr rhagorol Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoors am gynnal yr ymqweliad, am y croeso cynnes ac am y gwaith ieuenctid rhagorol rydych yn ei gynnig.”
Fe wnaeth Steve Nicolls (Cadeirydd Llywodraethwyr AOC) a Darryl White (Swyddog Datblygu Gweithlu Gwaith Ieuenctid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Safonau Addysg a Hyfforddiant) gyfranogi yn ymweliad y Gweinidog hefyd. Roedd yr ymweliad yn gyfle i ddwyn sylw at y bartneriaeth hirhoedlog rhwng AOC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Safonau Addysg a Hyfforddiant, sy’n parhau i fod yn allweddol o ran proffesiynoli’r gweithlu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru trwy hyfforddiant a rhaglenni arbenigol.
Ychwanegodd Darryl White hefyd:
“Roeddwn i’n falch iawn o gael cwrdd â Vikki Howells y Gweinidog yn ystod ei hymweliad â Chanolfan Ieuenctid Eastmoors a chael cyfle i drafod ein gwaith presennol i gynorthwyo Gweithwyr Ieuenctid ledled Cymru. Yn ETS Cymru Wales, rydym wedi ymrwymo i gryfhau’r gweithlu Gwaith Ieuenctid ar bob lefel weithredol. Rydym yn cynnig llwybrau i ymarferwyr newydd ac rydym hefyd yn sicrhau y gall arweinwyr a rheolwyr presennol a darpar reolwyr ac arweinwyr ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r sylfeini proffesiynol sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Cafodd y rhaglen Lefel 4 hon ei chynllunio a’i llunio ar y cyd gan y sector, ac dyma’r union fath o gynnydd rydym yn dymuno’i sicrhau ar draws y sector, ac roedd yn galonogol gallu cynnig cyfle i’r Gweinidog weld effaith y gwaith datblygiadol a chydweithredol hwn â’i llygaid ei hunan.”
Dymuna Addysg Oedolion Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Safonau Addysg a Hyfforddiant ddiolch yn ddiffuant i Vikki Howells AS am ei hamser ac am barhau i gefnigu darpariaeth gwaith ieuenctid yn Sblot a ledled Cymru.









📸Tracey Paddison
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth