Gweddnewid Ystafelloedd gydag Addysg Oedolion Cymru
13-Medi-2024Gweddnewid Ystafelloedd gydag Addysg Oedolion Cymru
Dros wyliau’r haf, gweddnewidiwyd swyddfa Addysg Oedolion Cymru yn Iard Cowper, yn cynnwys cynllun newydd i sicrhau bod y lleoliad yn fwy hygyrch i staff, dysgwyr ac ymwelwyr y sefydliad. I allu cyflawni’r prosiect adnewyddu pedair wythnos, bu’n rhaid i holl aelodau’r staff adael y swydd i alluogi’r contractwyr a’r adeiladwyr i weithio heb darfu llawer ar weithrediadau AOC.
Prif ddiben y prosiect oedd symud yr holl fannau dysgu a’r ystafelloedd dosbarth i’r llawr isaf a sicrhau bod gan y tiwtoriaid perthnasol le i weithio mewn swyddfeydd yn agosach at y dysgwyr pe bai hynny’n ofynnol. Mae hyn yn cynnwys ystafell weddïo wrthsain newydd a lle tawel y gall dysgwyr ei ddefnyddio i ymneilltuo pan fydd hynny’n ofynnol. Mae’r staff gweithredol wedi symud i fyny’r grisiau i’r llawr cyntaf, ble ceir cynllun llawr newydd ac ystafelloedd newydd i gynnal cyfarfodydd.
Mae’r prosiect helaeth hwn wedi golygu llawer iawn mwy na chôt o baent. Mae waliau a fframiau drysau newydd wedi’u gosod, ac mae ceblau trydan newydd wedi’u gosod a’u llwybro trwy’r waliau, y nenfwd a’r llawr. Mae drysau tân newydd wedi’u gosod ym mhob rhan o’r adeilad, ac mae teils llawr a sgertins newydd wedi’u gosod, ac mae’r standiau setiau teledu a’r byrddau gwyn wedi’i hailosod yn y mannau dysgu perthnasol. Mae’r holl offer TG wedi’u hailosod ym mannau perthnasol y dysgwyr, ac mae cyflwyniadau PowerPoint ychwanegol bellach ar gael ynghyd ag offer cyfrifiadurol newydd i gyd-fynd â natur flaengar technoleg ddigidol. Mae waliau nodwedd wedi’u peintio i gyd-fynd â lliwiau brand AOC, a bydd cadeiriau swyddfa newydd ar gael i ddysgwyr ar ddechrau’r tymor.
Mae’r prosiect wedi’i oruchwylio gan Dawn Rogers, Rheolwraig Iechyd, Diogelwch, Amgylchedd ac Ystadau AOC. Dywedodd Dawn:
“Tua diwedd y gwanwyn eleni, testun cyffro i mi oedd ymgymryd â’r her o optimeiddio lle llawr ein swyddfeydd yng Nghaerdydd. Y diben oedd gwella ein mannau gwaith trwy ychwanegu rhagor o ystafelloedd cyfarfod ar gyfer y staff ac adleoli sawl tîm yn strategol ar draws y ddau lawr. Gan flaenoriaethu profiadau dysgwyr, fe wnaethom symud staff sy’n gyfrifol am y cwricwlwm i’r llawr isaf, gan sicrhau fod yr holl adnoddau ar gyfer y dysgwyr wedi’u lleoli’n hwylus gyda’i gilydd, a gwella cynhwysiant a hygyrchedd er budd ein holl ddysgwyr.”
“Roedd fy syniadau yn cynnwys creu dwy ystafell i gynnal cyfarfodydd ar gyfer staff, ystafell amlbwrpas hwylus a all gynnig lle diogel i weddïo neu fyfyrio’n dawel, a lle diogel i storio pethau o natur gyfrinachol. Canolbwyntiais ar ail-ddylunio’r mannau hyn er mwyn diddymu risgiau, ac ymgorfforwyd deunyddiau gwrthsain, mesurau diogelwch a defnydd effeithiol o le. I sicrhau dull gweithredu cynhwysfawr, trafodais â rheolwyr allweddol i gael adborth amrywiol gan staff a fyddai’n defnyddio’r mannau newydd hyn. Fe wnaeth yr ymdrech gydweithredol hon ganiatáu i mi gadarnhau ein cynigion ac amlinellu’r camau nesaf yn arwain at gau ac ailagor yr adeilad.”
“Yn ystod y gwaith adnewyddu, goruchwyliais y prosiect ar y cyd â’r contractwr a benodwyd gan AOC i sicrhau y byddai’r gwaith yn mynd rhagddo yn ddidrafferth ac yn cael ei gyflawni yn unol â safonau a therfynau amser y sefydliad. Heb os, fe wnaeth y prosiect fy ngalluogi i ymgymryd â llawer o gyfrifoldebau amrywiol o ran cynorthwyo meysydd a thimau amrywiol i sicrhau y câi’r prosiect ei gwblhau’n brydlon. Mae ymgymryd â’r her gymhleth hon wedi bod yn brofiad hyn o werth chweil. Roedd gallu gweld fy syniadau’n cael eu gwireddu a gweddnewid ein mannau gwaith i greu amgylchedd mwy ymarferol ac ysbrydolgar i’n staff a’n dysgwyr yn brofiad hynod o werth chweil.”
Yn ystod y prosiect, mae Dawn wedi cofnodi’r gweithgarwch yn feunyddiol ac wedi tynnu lluniau o’r gwaith wrth iddo fynd rhagddo. Mae hyn wedi cynnig cipolwg gwirioneddol ar ddyfnder y gwaith a wnaed a chafwyd ambell syrpréis yn ei sgil, ac fe wnaeth rhai aelodau o’r staff (gan gynnwys Mark Baines, Pennaeth y Cwricwlwm; Cath Hicks, Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr, ac Adrian Hadfield, Rheolwr MIS a Thechnoleg) oll gynorthwyo i gwblhau’r prosiect pan oedd hi’n ddiogel gwneud hynny. Mae’r prosiect wedi’i gwblhau yn gynt na’r disgwyl. Isod, gallwch weld detholiad o luniau o ddyddiadur Dawn.















Ychwanegodd Dawn:
“Dymunaf hefyd ddiolch o waelod calon i’r staff am eu cyfraniadau amhrisiadwy, ac fe wnaeth hynny feithrin ymdeimlad cryf o waith tîm a gwerthfawrogi, elfennau hanfodol i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn. Gyda’n gilydd, rydym wedi creu man gwaith sy’n ysbrydoli cydweithio â thwf yn ogystal â diwallu ein hanghenion.”
Mae’r staff eisoes wedi’u croesawu’n ôl i’w gweithle yn Iard y Cowper, ac rydym yn edrych ymlaen at weld dysgwyr a thiwtoriaid yn dychwelyd i’r adeilad ar ddechrau’r tymor, sef dydd Llun 9 Medi.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth