Gwaith Crefft yn Ffynnu yn y Drenewydd: Gweithdai Penwythnos i Feistroli Clytwaith a Chynhyrchu Anrhegion Nadolig
4-Rhagfyr-2025


Oherwydd y galw gan ddysgwyr yn y Drenewydd, Powys, cynhaliwyd nifer o Weithdai Crefft ar Ddyddiau Sadwrn yn ystod y tymor, yn Ystafell Hyfforddi AOC, yn Nhŷ Dewi Sant. Mae’r gweithdai’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau mewn Macramé, gwnïo a chlytwaith/cwiltio.
Ar ddydd Sadwrn, 22ain Tachwedd, mynychodd nifer o ddysgwyr Weithdy ‘Cyflwyniad i Glytwaith a Chwiltio’ gydol y dydd. Y prosiect ar gyfer y diwrnod oedd cwblhau mat diod clytwaith wedi’i blygu. Roedd y Gweithdy yn cynnwys dewis ffabrigau priodol, torri darnau i’r prosiect yn ôl siart torri, adeiladu’r mat diod a’i orffen gyda dull cefnyn a rhwymo popeth mewn un. Dysgodd y dysgwyr hefyd sut y gellid defnyddio’r bloc i wneud rhedwr bwrdd.
Cyflwynwyd y Gweithdy gan Danielle Walters, un o’n tiwtoriaid Crefft gwych yng Ngogledd Powys. Mae Danielle hefyd yn cyflwyno dosbarth Sgiliau Gwnïo wythnosol, gerllaw yn y Trallwng. Yr wythnos diwethaf, roedd dysgwyr ar y cwrs hwnnw’n defnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt dros y tymor diwethaf i greu a gwneud addurniadau ac anrhegion tymhorol. Maent wedi gwneud Pwdinau Nadolig ffelt drwy wnïo â llaw, ac wedi addurno eu gwaith gyda phwythau brodwaith, gan gynnwys clymau Ffrengig.
Gwaith gwych Danielle, a’r holl ddysgwyr! Mae eich gwaith caled wedi talu ar ei ganfed yn sicr, ac mae’r dysgwyr wedi gwneud cymaint o eitemau hardd.
Da iawn!
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth