Grymuso Dechreuadau Newydd: Sut mae ESOL yn Trawsnewid Bywydau ym Merthyr Tudful
2-Gorffennaf-2025O dan arweiniad y tiwtor ESOL sef Gwyn Roberts, mae dysgwyr ym Merthyr Tudful wedi bod yn datblygu eu sgiliau Saesneg drwy astudio gydag Addysg Oedolion Cymru (AOC), ac mae hyn wedi eu galluogi i feithrin hyder wrth ymgartrefu yn eu cymunedau newydd.
Mae cyrsiau ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Addysg Oedolion Cymru yn rhedeg ledled Cymru, naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein drwy gydol y flwyddyn academaidd. Cynlluniwyd y dosbarthiadau i gefnogi unigolion nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, gyda’r nod o wella eu sgiliau siarad, gwrando, ysgrifennu a darllen. Mae Anna a Natalia yn mynychu dosbarthiadau Gwyn, ac maent wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’u dysgu, gan arwain at effaith ehangach ar eu bywydau bob dydd. Mae Gwyn yn dweud mwy wrthym am y dysgwr:
“Dechreuodd Anna astudio ESOL gydag AOC tair blynedd yn ôl. Mae wedi gwneud cynnydd sylweddol gan gwblhau Lefel Mynediad 3, ac mae hi bellach yn astudio ar Lefel 1. Ar y dechrau, roedd yn ei chael yn anodd siarad, ond o ganlyniad i astudio yn y dosbarth, mae hi bellach yn hyderus i gymryd rhan mewn sgyrsiau gyda’r meddygon, ffonio i archebu apwyntiadau dros y ffôn, mynd i nosweithiau rhieni a chwarae rhan weithredol yn addysg ei phlant. Mae hi hefyd yn astudio rhifedd gydag AOC ar Lefel Mynediad 3, gan obeithio symud ymlaen i Lefel 1 y tymor hwn.”
Dyma be ddywed am Natalia:
“Dechreuodd Natalia astudio ESOL ar Lefel Mynediad 2 dwy flynedd yn ôl. Cyn hynny, roedd siarad Saesneg yn codi ofn arni, ond mae ei sgiliau Saesneg wedi gwella’n sylweddol erbyn hyn. Mae ei hyder wedi cynyddu, ac mai bellach wedi symud ymlaen i astudio ar Lefel Mynediad 3. Yn y cyfamser, galluogodd ei hastudiaethau iddi dechrau gweithio fel gweinyddes ginio mewn ysgol gynradd leol, lle mae’n medru cyfathrebu’n effeithiol gyda’r disgyblion a’r staff.”
Dim ond dwy o’r cannoedd lawer o ddysgwyr sy’n dysgu ESOL yn flynyddol gydag Addysg Oedolion Cymru yw Anna a Natalia. Drwy rymuso unigolion i ddatblygu eu sgiliau iaith, mae cyrsiau ESOL gan AOC yn gwneud mwy na dysgu Saesneg; maent yn cynyddu mynediad, yn ehangu cyfleoedd, ac yn cefnogi teuluoedd cyfan wrth iddynt integreiddio a ffynnu’n llwyddiannus yn eu cymunedau lleol.
Am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau ESOL, ewch i www.addysgoedolion.cymru/cyrsiau-cymunedol-yn-glanio/sgiliau-hanfodol-ac-esol/

Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth