Goresgyn Rhwystrau: Taith Ysbrydoledig Sinead Tia Barry-Blackham gydag Addysg Oedolion Cymru | Addysg Oedolion Cymru

Goresgyn Rhwystrau: Taith Ysbrydoledig Sinead Tia Barry-Blackham gydag Addysg Oedolion Cymru

23-Mehefin-2025
Rhannu

Gyda phenderfyniad diysgog a chefnogaeth tîm ansawdd ymroddedig Addysg Oedolion Cymru (AOC), mae Sinead Tia Barry-Blackham, ein dysgwr o Ogledd Cymru nid yn unig wedi llywio drwy a gorchfygu rhwystrau personol sylweddol ar ei thaith ddysgu. Mae ei stori yn dyst i ddyfalbarhad a grym cefnogaeth sydd wedi’i deilwra.

Mae Sinead yn dioddef o Bryder Cymdeithasol eithafol, a oedd yn peri rhwystrau sylweddol iddi yn ei hastudiaethau. Bu’n rhaid iddi wisgo sbectol haul yn ystod ei thrafodaeth a’i chyflwyniad yn ei harholiadau Cyfathrebu, oherwydd plycio llygad difrifol, sy’n digwydd pan mae’n bryderus. Methodd ei harholiad cymhwyster Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru ddwywaith, ond ar ôl dyfalbarhau, llwyddodd ar y drydedd ymgais. Nid oedd byth yn mynd i roi’r gorau iddi; roedd yn benderfynol o lwyddo.

Cyn pob arholiad, byddai Catrin Roberts sy’n Weinyddwr Sicrwydd Ansawdd gydag AOC, yn siarad gyda Sinead. Bu’n rhaid i Catrin oruchwylio Sinead ar sail un i un mewn lle diogel, gan na allai oherwydd ei phryderon fod mewn ystafell gyda’r dysgwyr eraill. Yn ystod arholiadau Sinead, dechreuodd y ddwy siarad am bawb a phopeth, gan gynnwys yr anawsterau bu i Sinead wynebu yn ystod ei bywyd, a phroblemau personol sy’n dal i fodoli.

Mae’r twf yn hyder Sinead wedi cynyddu ei chyfleoedd cyflogaeth. Mae gan Sinead swydd gwasanaeth cwsmeriaid rhan-amser bellach yn ei siop leol TX Maxx, sy’n gofyn am ryngweithio gyda chwsmeriaid. Dywedodd Catrin: “Mae hyn yn rhywbeth na allwn fyth wedi ei ddychmygu pan gyfarfûm gyda Sinead nôl ym mis Chwefror – nid oedd hyd yn oed yn medru gwneud cyswllt llygad gyda mi. Mae’r cynnydd yn ei hyder ar ffaith ei bod yn medru ymdrin gyda’i phryderon wedi bod yn gamp anhygoel.”

Wrth edrych at y dyfodol, gobeithia Sinead gofrestru ar Gwrs Mynediad yn ei choleg lleol ym mis Ionawr 2026, gyda’r nod o symud ymlaen i’r brifysgol wedyn. Gyda’r gefnogaeth gywir, dengys taith ddysgu Sinead nad dim ond llwyddiant academaidd sy’n bosibl, ond hyd yn oed gellir goresgyn rhwystrau personol hynod o anodd. Dymunwn y gorau i Sinead gyda’i thaith dysgu barhaus.

Mae Sinead yn un o’r nifer o ddysgwyr o bob cwr o Gymru sydd wedi manteisio ar raglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg Dysgu Oedolion Cymru. Cwblhaodd Sinead ei chymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Sgiliau Cyfathrebu, sac mae’n cael ei dderbyn gan y mwyafrif helaeth o golegau a phrifysgolion yng Nghymru fel cymhwyster sy’n cyfateb i radd TGAU A-C mewn Iaith Saesneg.

Ochr yn ochr gyda’r Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu, mae Addysg Oedolion Cymru hefyd yn cynnig cyrsiau mewn Cymhwyso Rhif Lefel 2. Os hoffech ddysgu mwy am ein rhaglen Sgiliau Hanfodol Hyblyg, ewch i’r ddolen hon: 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth