Goresgyn Rhwystrau Llythrennedd Digidol
25-Ionawr-2021Mae Jean Jones yn diwtor addysg gymunedol boblogaidd ers blynyddoedd lawer. Mae Jean wedi gweithio’n galed i addasu ei dull o ddarparu gwersi i amgylchedd dysgu ar-lein llawn yn ystod pandemig Coronafeirws, ac mae ei hymroddiad a’i chymorth wedi galluogi pob dysgwr i barhau â’u hastudiaethau a pharhau i ddatblygu. Mae ei dulliau addysg wedi cynnig buddion sylweddol iawn i’w dysgwyr. Mae hi wedi cynorthwyo ei dysgwyr i agor cyfrifon e-bost ac anfon negeseuon, a maes o law, creu taenlenni a llawer rhagor. Mae hyn wedi helpu ei dysgwyr i wella eu gallu a’u hyder.
Bydd dysgwyr o bob cefndir ac â galluoedd ar bob lefel yn mynychu dosbarthiadau Jean, ac maent oll wedi cyflawni eu nodau. Roedd rhai dysgwyr yn ddi-waith pan wnaethant ddechrau mynychu ei chyrsiau dros flwyddyn yn ôl, ac roedd eu sgiliau llythrennedd digidol yn brin. Fe wnaethant gwblhau holl lefelau ei chyrsiau a mynd ati i ganfod gwaith, gan ddiolch i Jean am eu helpu i fagu digon o hyder i chwilio am swyddi ar-lein ac ymgeisio amdanynt, a chael cyfweliadau llwyddiannus ar-lein. Mae dysgwyr a wnaeth gychwyn mynychu dosbarthiadau Jean i wella eu sgiliau tra’r oeddent ar ffyrlo ac wedi colli eu swyddi’n ddiweddar hefyd wedi mynd ati i ganfod gwaith ers hynny, gan ddefnyddio eu sgiliau newydd. Diolch i gymorth Jean, mae ei dysgwyr wedi gallu cyflawni eu nodau.
Dywed Jean,
“Mae bod yn diwtor yn fy ngalluogi i rannu fy mrwdfrydedd ynghylch gallu defnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg yn ddyddiol i wneud cymaint o bethau gwahanol. Rwy’n mwynhau bod gyda phobl a’u helpu i ddysgu a goresgyn eu pryderon ynghylch technoleg, a byddaf i’n teimlo bodlonrwydd a chyffro dros y dysgwr ‘pan fydd y geiniog yn syrthio – ac rwy’n falch o gael cyfle i fod yn rhan o hynny. Rydym ni oll yn dysgu trwy ddulliau gwahanol, a byddaf i’n ymdrechu i ganfod dull pob dysgwr.”
Dymuniadau gorau yng ngwobrau Ysbrydoli, Jean, oddi wrth bawb yn Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales.
Dysgwch fwy am ein cyrsiau Llythrennedd Digidol yma.
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth