Fforwm Llysgenhadon Dysgwyr Addysg Oedolion Cymru
4-Chwefror-2025Mae Addysg Oedolion Cymru wrthi’n datblygu Rhaglen Llysgenhadon Dysgwyr. Credwn fod gan gyflwyno Rhaglen Llysgenhadon Dysgwyr y potensial i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar unigolion, cymunedau lleol, a Chymru gyfan, gan roi llais i ddysgwyr wneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau, trefi, dinasoedd, a’r wlad.
Fel rhan o’r rhaglen mae Addysg Oedolion Cymru yn datblygu cwrs Llysgenhadon Dysgwyr newydd, a chroesawn eich adborth.
Rydym yn gwahodd dysgwyr o bob rhan o Gymru i ymuno gyda ni i drafod yr hyn y credwch dylai’r cwrs a’r rhaglen newydd ei gynnwys, drwy archwilio gwahanol themâu sy’n ymwneud gyda dysgu ac addysg oedolion.
Os oes gennych ddiddordeb, ymunwch gydag un o’n sesiynau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 10fed Chwefror, i ddarganfod mwy a chael cyfle i ddweud eich dweud!
Cliciwch ar yr amser a’r dyddiadau isod i gofrestru:
Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth