Ethol llywodraethwraig newydd i’n dysgwyr | Addysg Oedolion Cymru

Ethol llywodraethwraig newydd i’n dysgwyr

4-Tachwedd-2024
Rhannu

Mae’n bleser cyhoeddi fod Emily Carter wedi ei phigo fel aelod diweddaraf ein Cyngor (corff llywodraethol). Mae hwn yn dilyn yr etholiad a drefnwyd ymhlith ein dysgwyr ym mis Hydref, ble welwyd record o 12 ymgeisydd yn cynnig eu hunain am y swydd hon.

Mewn cystadleuaeth glos daeth Emily’n gyntaf gyda 18% o’r bleidlais gyfan. Hoffwn ddiolch i’n dysgwyr oll a gymerodd rhan yn y broses ddemocrataidd hon – naill ai fel ymgeisydd neu’n bleidleisiwr – sydd yn sicrhau llais i’n dysgwyr ar y Cyngor.

Daw Emily o Dreharris ger Merthyr Tudful. Wedi astudio cyrsiau mewn cymorth cyntaf, cwnsela ac iechyd & diogelwch gydag Addysg Oedolion Cymru, mae hi yn awr yn gweithio ar gymhwyster PCET (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol), sydd yn galluogi pobl i ddysgu yn y sectorau addysg bellach, oedolion a galwedigaethol (oedran 16+).

Mae Emily’n ymuno gydag ein hymddiriedolwyr dysgwyr mwy profiadol Cathy Clark a Jan Tiley, sydd yn cwblhau’r tair sedd ar gyfer dysgwyr ar ein Cyngor. Dywed hi: ‘Edrychaf ymlaen at y cyfle i ymuno a Chyngor Addysg Oedolion Cymru ac i gysylltu â phobl. Rhagwelaf amser buddiol o ddatblygiad ac o gydweithio gyda phawb’. Dymunwn yn dda iddi hi yn ei swydd newydd.

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth