Ein prosiectau Sgiliau 24 y Gronfa Ffyniant Gyffredin a phrosiectau ‘Multiply’! | Addysg Oedolion Cymru

Ein prosiectau Sgiliau 24 y Gronfa Ffyniant Gyffredin a phrosiectau ‘Multiply’!

31-Hydref-2023
Rhannu

Ar ddydd Iau 26ain Hydref 2023, gwahoddwyd aelodau tîm Addysg Oedolion Cymru i Lolfa Quinell ym Mharc y Scarlets, Llanelli, ar gyfer lansiad Sgiliau 24 y Gronfa Ffyniant Gyffredin a phrosiectau ‘Multiply’ Coleg Sir Gâr. Mae Addysg Oedolion Cymru mewn partneriaeth gyda Choleg Sir Gâr ac Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin, yn gweithio i gefnogi oedolion a theuluoedd o fewn y sir, i wella eu sgiliau rhifedd a mathemateg drwy’r Prosiect ‘Multiply’.

Yn cynrychioli Addysg Oedolion Cymru yn y digwyddiad roedd Beth John (Rheolwr Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru), Mark Baines (Pennaeth Cwricwlwm a Pherfformiad), Alex Lloyd (Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu) ac Ian Wooldridge, a benodwyd yn ddiweddar fel Tiwtor rhifedd ar gyfer ‘Multiply’ yn Sir Gaerfyrddin. Rhoddodd y digwyddiad lansio gyfle i arweinwyr addysgol, elusennau a chyflogwyr o bob rhan o’r rhanbarth rwydweithio, sefydlu perthnasoedd newydd a/neu ddysgu mwy am brosiectau Sgiliau 24 y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a ‘Multiply’. Croesawyd pawb gan Nia Lloyd (Rheolwr Prosiect Strategol) Coleg Sir Gâr a chafwyd areithiau allweddol ysbrydoledig gan Andrew Cornish Pennaeth/Prif weithredwr Coleg Sir Gâr, Jane Lewis Cronfa Ffyniant Gyffredin a Sectorau Blaenoriaeth, Rheolwr Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru a Simon Wright, o ‘Cook 24’ – Cronfa Adfywio Cymunedol. Cafodd y rhai a fynychodd ginio blasus, gyda’r cynhwysion wedi eu cyrchu gan gyflenwyr lleol ac wedi ei baratoi gan aelodau o brosiect Cook24.

Dywedodd  Beth John, “Cafwyd diwrnod gwych gan bawb a fynychodd ddigwyddiad lansio’r ‘Gronfa Ffyniant Gyffredin’ yn Llanelli. Daeth y diwrnod â rhanddeiliaid allweddol ac amrywiaeth o sefydliadau at ei gilydd, i rannu gwybodaeth am y tri prosiect sy’n cael eu darparu ar draws Sir Gaerfyrddin, a chaniatáu i dri darparwyr y  prosiectau wneud cysylltiadau newydd amhrisiadwy, nid yn unig o fewn cwmpawd y Prosiect ‘Multiply’, ond hefyd ar gyfer eu darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned prif ffrwd. Rydym yn falch iawn fel Sefydliad, i weithio’n agos gyda Choleg Sir Gâr a’r awdurdod lleol, ac edrychwn ymlaen at weld ein cyrsiau rhifedd yn cychwyn yn fuan ar ôl gwyliau Hanner Tymor.”

Mae ‘Multiply’ yn rhaglen newydd a ariennir gan y llywodraeth, a ddarperir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd. Mae wedi’i anelu at y rhai sy’n 19 oed a hŷn nad oes ganddynt TGAU gradd C (neu gyfwerth) mewn mathemateg. Gall dysgwyr gael mynediad i gyrsiau rhifedd am ddim drwy ‘Multiply’, i adeiladu eu hyder gyda rhifau ac ennill cymhwyster. Mae Addysg Oedolion Cymru yn falch i weithio gyda Choleg Sir Gâr a Phartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Gaerfyrddin mewn 25+ o leoliadau yn y sir, i gefnogi’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.

Mae sgiliau rhifedd da yn hanfodol yn y gweithle ac mewn bywyd dyddiol. Gallent fod yn gymorth i wella cyllid y cartref ac i helpu plant gyda’u gwaith cartref. Gall gwella sgiliau rhifedd hefyd ddatgloi cyfleoedd gwaith newydd, gan arwain at gyflogau uwch a gwell lles, gan agor y posibilrwydd i symud ymlaen i lefelau uwch o hyfforddiant.

O fis Tachwedd 2023, bydd cyrsiau ar gyfer dechreuwyr i gyrsiau uwch fel TGAU Mathemateg, Cymwysterau Sgiliau Hanfodol, neu gyfwerth, yn cael eu cynnig yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y prosiect ‘Multiply’ yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, gydag Addysg Oedolion Cymru yn cymryd rôl arweiniol mewn siroedd amrywiol, gyda chefnogaeth partneriaid. Rydym yn falch i gynnig cyfleoedd ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf, gyda chontractau eraill yng Nghymru yn dod yn fuan. I ddarganfod mwy ewch i www.colegsirgar.ac.uk/index.php/cy/astudio/multiply-sgiliau-rhifedd-oedolion

 

 

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth