Ein darpariaeth Celf a Chrefft yn Abertawe! | Addysg Oedolion Cymru

Ein darpariaeth Celf a Chrefft yn Abertawe!

7-Mawrth-2024
Rhannu

Efallai eich bod eisoes wedi gweld rhai o waith gwych ein dysgwyr ar ein cyfryngau cymdeithasol felly gadewch i ni edrych yn agosach ar ein darpariaeth Celf a Chrefft sy’n newydd sbon ar gyfer y flwyddyn academaidd hon!

Ar hyn o bryd mae gennym dri chwrs a ddarperir gan ein tiwtor Rachel Halstead, ac mae pob un ohonynt yng Ngweithdai Cymunedol Abertawe yn ninas Abertawe:

Ymwelodd ein Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm yn Abertawe gyda phob un o’r tri dosbarth i gwrdd gyda’r dysgwyr a chanfod beth sydd ymlaen.

Ar ddydd Llun cynhelir y cwrs Crefftau Ddoe (Vintage) ac Uwchgylchu Dillad. . .


Julie a Rachel.

Cyfarfod Julie! Symudodd Julie i Abertawe o’r Rhondda yn 2023. Ar ôl treulio llawer o’i bywyd fel gwraig a gofalwr, mae  bellach yn teimlo ei bod wedi dechrau cyfnod newydd yn ei bywyd. Daeth Julie i wybod am y cwrs hwn ar lafar ac er ei bod yn teimlo ychydig yn bryderus, achubodd ar y cyfle a chofrestru.

Dywedodd Julie, “Rwyf wedi cael fy swyno gan y tiwtor! Mae Rachel wedi dangos cymaint o dechnegau newydd i mi. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gymaint nes i mi wneud cais a chael fy nerbyn i’r Drindod Dewi Sant i wneud gradd Patrwm Arwyneb a Thecstilau ym mis Medi!!” Dymunwn pob lwc i Julie!!!”

Mae Julie ar hyn o bryd yn gweithio ar y gwaith celf gwych yma:

Mae’n bwriadu trosglwyddo’r dyluniad hwn i ffabrig a gwneud bag!


Cyfarfod Ella!

Daeth Ella o hyd i’r dosbarthiadau drwy ffrind, ac ar ôl gorffennol anodd ac ymwybyddiaeth cynyddol o’i Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac Niwroamrywiaeth, mae Ella bellach wrth ei bodd yn cael bod yn greadigol.

Meddai, “Rwyf wrth fy modd yn gwneud pethau sy’n rhoi llawenydd i bobl.”

Mae Ella yn uwchgylchu siaced ar hyn o bryd. Mae wedi trosglwyddo’r ddelwedd i gefn y siaced a thros yr wythnosau nesaf, bydd yn ychwanegu manylion ychwanegol gyda’r blodau haul a llygad y dydd i roi effaith 3D.

Dydd Mawrth, aethom i ymweld y cwrs Archwilio Tecstilau 3D a Cherflunio Meddal.

Daeth ein dysgwr, Marilyn i wybod am y dosbarth drwy un o weithdai preifat y tiwtor.

Dywed, “Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i ddatblygu fy nghreadigrwydd.”

Cyfarfod Jayne! Byddwch eisoes wedi gweld rhywfaint o waith Jayne? ar ein cyfryngau cymdeithasol. Mynycha Jayne ein holl ddosbarthiadau yn y gweithdai.

Dywed Jayne, “Nid wyf yn naturiol yn greadigol, ond rwy’n hoffi gwneud pethau artistig. Os bydd rhywun yn dangos i mi beth i’w wneud, rwyf wedi sylweddoli y gallaf ei wneud! Rydym yn gwneud rhywbeth newydd bob wythnos, felly rydych yn dod i wybod beth rydych yn ei hoffi. Fy nghlustog yw’r hoff beth rwyf wedi ei wneud hyd yn hyn.”

Ac ar ddydd Mercher, rydym yn gwneud Gwaith Celf mewn Cyfryngau Cymysg!

O’r grŵp hwn, dyma Tina! Ar ôl addysg academaidd iawn, 10 mlynedd yn ôl penderfynodd Tina wneud Lefel A mewn Celf a Thecstilau. Arferai Tina fod yn beiriannydd, ond yn anffodus mae bellach wedi’i chofrestru’n anabl ac mae mewn llawer o boen yn ddyddiol.

Dywed Tina, “Mae gwneud pethau fel hyn yn gymorth i reoli fy mhoen, gan ei fod yn newid fy meddwl ond hefyd pwysigrwydd yr elfen gymdeithasol, cyfarfod gyda phobl a theimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi.”

Cyfarfod Sarah! 11 mlynedd yn ôl, cafodd Sarah ddiagnosis o Sglerosis Ymledol (MS) ac argymhellwyd ei bod yn gwneud rhywbeth gyda’i dwylo. Collodd ei swydd hefyd a dechreuodd deimlo’n unig, felly penderfynodd chwilio am rywbeth i’w wneud yn y gymuned. Dywed, “Rwyf wrth fy modd yn defnyddio deunyddiau nad wyf erioed wedi’u defnyddio o’r blaen. Mae’r dosbarth yn amrywiol, ac rydym yn gwneud rhywbeth newydd bob wythnos. Mae’n ddosbarth cyfeillgar ac mae Rachel yn wych!”

Darn o waith cydweithredol.

Mae’r darn hwn yn cynnwys gwaith sawl dysgwr. Creodd pob dysgwr ddarn Gwneud Marciau A2 cyn iddynt gael eu trosglwyddo i ffabrig. Addurnodd y dysgwyr eu gwaith ac mae Rachel wedi eu gwnïo at ei gilydd. Bydd y darn yma, ynghyd â llawer mwy o waith y dysgwyr yn cael ei arddangos yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol/Cynhadledd/Gwobrau Dysgwyr AOC a gynhelir ym Merthyr Tudful ar ddydd Mawrth 9fed Ebrill.

Hoffem longyfarch ein holl ddysgwyr ar greu gweithiau celf gwych ac edrychwn ymlaen at weld mwy yn y dyfodol agos!

Os hoffech ddarganfod mwy am ein cyrsiau Celf a Chrefft, cliciwch yma!

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth