Ein Cynhadledd Flynyddol, ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a seremoni ein Gwobrau i Ddysgwyr yn Venue Cymru yn Llandudno! | Addysg Oedolion Cymru

Ein Cynhadledd Flynyddol, ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a seremoni ein Gwobrau i Ddysgwyr yn Venue Cymru yn Llandudno!

16-Ebrill-2025
Rhannu

Ddydd Iau, 3 Ebrill, cynhaliwyd ein Cynhadledd Flynyddol, ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a seremoni ein Gwobrau i Ddysgwyr yn Venue Cymru yn Llandudno. Daeth aelodau o dîm AOC, aelodau o’n Cyngor, partneriaid a gwesteion arbennig (gan gynnwys Maer a Maeres Llandudno)  atom ni.

Roedd y gynhadledd, dan ofal ein Llywydd, Nia Parry, yn seiliedig ar thema Dysgu Byd-eang – Archwilio Heddwch o’r Personol i’r Byd-eang. Agorwyd y digwyddiad gan ein prif siaradwr, ein His-lywydd newydd, Bernie Davies, a siaradodd am ‘Rym Addysg o ran Meithrin Diwylliant Heddwch,’ . Mae Bernie yn Llysgennad Byd-eang dros Heddwch ac fe esboniodd hi pam mae Addysg Heddwch yn hanfodol ar y lefel fyd-eang, a pham y gallwn ni oll fod yn llysgenhadon dros heddwch.

Ar ôl Bernie, cyflwynwyd neges fideo fer gan Vikki Howells AS, am rôl addysg bellach o ran meithrin heddwch. Yna roeddem yn falch iawn o groesawu Oleg Smirnov (Cyfarwyddwr Gwlad, DVV International (Wcráin) ac Aelod o Fwrdd EAEA), a siaradodd am Addysg Heddwch o safbwynt Wcráin. Yn ystod ei gyflwyniad, canodd ffôn Oleg â sŵn seiren cyrch awyr, a dywedodd Oleg bod hynny’n rhybudd awtomatig i holl drigolion Wcráin sydd â ffôn symudol. Fe wnaeth sŵn y rhybudd fynegi realiti’r gwrthdaro yn Wcráin yn ystod digwyddiad, ac fe wnaeth yr emosiwn achosi dagrau i’n cyflwynydd, Nia Parry.

Ein siaradwyr gwadd olaf oedd Michelle Kerswell (AOC) a Hayley Morgan (WCIA), a siaradodd gyda’i gilydd am y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r berthynas rhwng y ddau sefydliad a sut mae Addysg Heddwch yn cael ei ymgorffori yn y cwricwlwm trwy AOC. Mewn cynhadledd orlawn, daeth rhan gyntaf y diwrnod i ben trwy gynnal sesiwn holi ac ateb, ac fe wnaeth y pedwar siaradwr ateb cwestiynau ynghylch Addysg Heddwch.

Yn y prynhawn, fe wnaethom ddathlu cyflawniadau ein dysgwyr trwy gyflwyno Gwobrau Dysgwyr blynyddol Addysg Oedolion Cymru. Roedd yn bleser gennym groesawu ein henillwyr a’u gwesteion i Landudno i ddathlu eu llwyddiannau.

Nevaeh Nash oedd enillydd cyntaf ein Gwobr am Oresgyn Rhwystrau. Ar ôl colli ei brawd yn drasig, fe wnaeth cymorth gan weithwyr ieuenctid ei helpu i droi ei galar yn weithredu cadarnhaol. Fe wnaeth hi gwblhau cyrsiau Gwaith Ieuenctid ar Lefelau 2 a 3 yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymuned Gabalfa a sefydlu LOSS, prosiect sy’n cynnig cymorth hanfodol i bobl ifanc. Mae stori Nevaeh wedi effeithio’n sylweddol ar lawer o fywydau.

Yna, fe wnaeth Rob Scott, enillydd y Wobr am Ysbrydoli Eraill, swyddog carchar sy’n un o ddysgwyr Addysg Oedolion Cymru, draddodi araith rymus wrth dderbyn ei wobr. Roedd wedi cyfranogi yng nghynllun peilot Hyfforddiant i Weithio gydag Oedolion Ifanc yn 2023. Roedd hynny’n gydweithrediad rhwng AOC, POA, WULF, a CEF Berwyn, a luniwyd ar gyfer swyddogion sy’n gweithio gydag oedolion ifanc. Bellach, mae Rob yn hyfforddi swyddogion eraill y carchar.

Yn olaf, fe wnaeth Grŵp i Rieni o Ysgol Uwchradd Cathays ennill y Wobr am Gyfrannu at y Gymuned. Fe wnaeth pedwar aelod a’u tiwtor, Christina Roy, dderbyn y wobr. Sefydlwyd y grŵp hwn yn 2014, ac mae’n grymuso teuluoedd, yn enwedig menywod, mewn cymuned amrywiol sydd ag incwm isel, drwy gynnig cyrsiau achrededig a rhai heb eu hachredu drwy law Addysg Oedolion Cymru.

Fe wnaeth ein Prif Weithredwr, Kathryn Robson, a Chadeirydd AWL, Steve Nicholls, gloi’r digwyddiad. Fe wnaeth y ddau rannu sylwadau ynghylch y diwrnod a diolch i’r gwesteion a oedd yn yr ystafell, y cyflwynwyr a’r rhai oedd wedi gweithio yn y cefndir i sicrhau y gellid cynnal y digwyddiad. Cafwyd diwrnod emosiynol, hwyliog a grymusol, ac roedd y gynhadledd a’r gwobrau yn ddull ysbrydoledig o ddysgu rhagor am Addysg Heddwch o’r lefel leol i’r lefel fyd-eang ac i gynnal dathliad go iawn o’r prif reswm dros fodolaeth AOC: ei ddysgwyr.

Os gwnaethoch chi fethu’r digwyddiad, ond fe hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch wylio’r ffrwd byw ar ein sianel YouTube yma: https://youtube.com/live/swC0KtJrJDE

Yn ôl i'r newyddion

Angen unrhyw help?

Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu

Fideo Cefnogi

Cymorth a Chefnogaeth