Dysgwyr yn Cofleidio Sgiliau Iaith Newydd mewn Cwrs Poblogaidd Ffrangeg Ar-lein!
16-Gorffennaf-2025Mae cwrs pum wythnos ddiweddar sef Cyflwyniad i Ffrangeg a gynhigiwyd gan Addysg Oedolion Cymru wedi derbyn adborth canmoladwy gan gyfranogwyr sy’n awyddus i fagu hyder wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu iaith newydd. Wedi’i gyflwyno ar-lein ac wedi’i arwain gan y tiwtor profiadol Amanda Salter, darparodd y cwrs le cynnes a chalonogol lle gallai dysgwyr o bob cefndir gymryd eu camau cyntaf i’r iaith Ffrangeg, a mwynhau ei wneud.
Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer dechreuwyr, gan ganolbwyntio ar gyfathrebu bob dydd, gan helpu dysgwyr i ddod i arfer gyda geirfa ac ymadroddion ymarferol. O archebu bwyd a diod mewn caffi i ddisgrifio profiadau personol a siarad am wyliau, archwiliodd dysgwyr senarios bywyd go iawn gan ddod a’r iaith yn fyw.
Dywedodd Amanda, sydd wedi bod yn dysgu Ffrangeg ers blynyddoedd lawer, ei bod hi’n bleser cael arwain y grŵp:
“Roedd yn hyfryd cwrdd grŵp mor gyfeillgar â’u cefnogi yn eu dysgu. Mae siarad gyda phobl mewn iaith newydd yn rhoi hwb mawr i hyder, ac mae’n dod â chymaint o fanteision eraill, boed hynny ar gyfer teithio, gwaith, neu ddim ond am hwyl o roi cynnig ar rywbeth newydd.”
Ac roedd yn amlwg bod y dysgwyr yn teimlo’r un peth. Dyma beth ddywedodd un cyfranogwr, wrth fyfyrio ar eu profiad:
“Mewn dim ond tair gwers fyw ar-lein ac un sesiwn wedi’i recordio, rwyf eisoes yn teimlo llai ofnus ynghylch parhau gyda’r daith hon. Cymerodd Amanda yr amser i deilwra’r gwersi i’n lefel ac eglurodd bethau’n glir, yn enwedig sut mae Ffrangeg yn wahanol i Saesneg. Gwnaeth hynny wahaniaeth mawr.”
Safodd y cwrs allan, nid yn unig am ei gynnwys diddorol ond hefyd am y ffordd yr oedd yn annog rhyngweithio. Tynnodd llawer sylw at y gweithgareddau siarad fel uchafbwynt go iawn, yn enwedig y cyfle i ymarfer sgwrsio Ffrangeg mewn amgylchedd heb bwysedd a diogel.
“Mwynheais yr ymarferion lle roeddem yn cymryd ein tro i ofyn ac ateb cwestiynau,” meddai dysgwr arall. “Roedd y tasgau gwrando hefyd yn hynod ddefnyddiol. Roedd cael trawsgrifiadau wedyn yn gymorth i mi ddeall y sillafu a strwythur y brawddegau, a all fod yn anodd pan fyddwch yn cychwyn.”
Yn ddiddorol, denodd y cwrs hefyd ychydig o ddysgwyr mwy profiadol a’i gwelodd fel cyfle gwerthfawr i ailymweld gyda’r pethau sylfaenol.
“Er fy mod mewn dosbarth uwch, fe helpodd y cwrs i mi atgyfnerthu’r sylfeini,” eglurodd un dysgwr. “Mae wedi cynyddu fy hyder wrth siarad a gwrando, ac rwyf yn bendant wedi gwella fy ynganiad a’m sillafu. Rwyf yn teimlo’n fwy cyfforddus yn gofyn cwestiynau ac yn siarad am bynciau fel gwledydd a chenedligrwydd nawr.”
Yr hyn a ddaeth mwyaf i’r amlwg o’r adborth oedd yr awyrgylch a greodd Amanda: un o gefnogaeth, anogaeth, a chyd fwynhad. Gwerthfawrogodd y dysgwyr y ddeinameg grŵp cyfeillgar a’r rhyddid i ofyn cwestiynau heb ofni barn.
“Mae’n anodd dewis fy hoff foment,” meddai un cyfranogwr, “oherwydd fe wnes i wir fwynhau’r holl ddosbarthiadau!”
Mae llwyddiant y cwrs byr yma yn ein hatgoffa o ba mor bwerus gall dysgu oedolion fod. Os ydych yn ailedrych ar hen sgiliau neu’n dechrau o’r dechrau, nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd, a mwynhau’r broses.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu cyrsiau cynhwysol a hygyrch sy’n grymuso dysgwyr sy’n oedolion ledled Cymru. Gyda mwy o ddosbarthiadau iaith wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol, mae’r cyflwyniad hwn i Ffrangeg wedi sbarduno cariad at ddysgu sydd ar fin tyfu.
Cymerwch olwg ar ein cyrsiau ar-lein cyfredol yma: www.addysgoedolion.cymru/cyrsiau-cymunedol/?subject=all&coursetype=Dysgu%20o%20Bell/Ar-lein

Angen unrhyw help?
Beth bynnag yw eich ymholiad - mawr neu fach - gallwn ni helpu
Fideo Cefnogi
Cymorth a Chefnogaeth